Tudalen:Ifor Owen.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eglwys. A gwaeth fyth, Pabyddes oedd braidd yn gwawdio ymdrechion Ficer Prichard i oleuo ei chenedl, ac yn fwy parod i feio nag i ganmol yr anfarwol Esgob Morgan am gyfieithu y Beibl i iaith ei phobl, ac heb ganddi yr un gwell gobaith am ddyfodol ei chenedl na'i gweld yn mynd yn ol dan iau y Pab a'i offeiriaid; yn ol i ofergoeledd Gwyliau Mab Sant a'r pechodfwytawyr, a "gwyrthiau" yr offeren!

A pha beth oedd ef?" gofynnai iddo'i hun. Protestant o'r Protestaniaid. Protestant na fedrai byth ddioddef i wraig ei fynwes gyffesu pethau wrth offeiriad fyddai'n gelu oddiwrtho ef ei hun. Nid oedd y gronyn lleiaf o reswm yn y ffaith ei fod. ef, ac yntau yn gadeirydd Clwb John Penri yng Nghaergrawnt, ac yn un o arweinyddion yr ychydig Gymry ienainc oedd yn cadw delfrydau Penri i fyny yn yr oes honno,—yn llochesu meddyliau o serch am un nas gallai fod, yn gyson â'i phroffes, heb ddymuno i'w gwlad fod fel yr Yspaen, a'i chydgenedl fod fel y Gwyddelod.

Weithiau, pan ddoi y meddyliau tywyll hyn i wrthdarawiad â'i awydd i weld a meddiannu Delyth, galwai i gôf yr awyddfryd gyda pha un y gwrandawai ar Meistr Walter Cradoc, a'r brwdfrydedd gyda pha un y llefarai am ei genadwri hyf, a threiai gysuro ei hun trwy gredu y gwnai y cariad at wirionedd er mwyn ei hun a amlygai ar yr adegau hynny, ac adegau ereill, ei harwain yn y pen draw i weld trwy honiadau a hawliau y Babaeth, a chyhoeddi ei hun yn Brotestant.

Ond gwanaidd oedd ei obeithion yn y cyfeiriad hwn pan fyddent gryfaf; am y rheswm nas gwyddai am nemawr un o'i phlant gwirioneddol yn gadael Eglwys Rufain os wedi ei ddwyn i fyny i oedran cyfrifoldeb dan ei gofal.

Arweiniwyd ei feddwl yn ddigon naturiol gan y meddyliau hyn at gysylltiad Cymru & Phabyddiaeth. Yr oedd wedi bod yn gofyn iddo ei hun droion yn ddiweddar beth oedd yn cyfrif am gyflwr dilewyrch bywyd moesol, cymdeithasol, a chenedlaethol ei wlad. Paham na fyddai yna fwy o flaenoriaid y genedl yn teimlo rhyw gymaint o genedlgarwch, ac yn rhoi mynegiant iddo mewn rhyw ffurf amlwg? Beth oedd gwir achos yr anwybodaeth dygn oedd yn gordoi y werin bobl, a'r ofergoeledd bron anhygoel oedd yn nodweddu pob dosbarth ohonynt yn