ddiwahaniaeth. Mor ychydig, hyd yn oed o'r Cymry mwyaf Cymreig, fedrent gydymdeimlo âg ysbryd cenedlgarol John Penri pan yn wylo ac yn gweddio dros wlad ei dadau, ac yn methu gweld fod bywyd yn werth ei fyw tra yr oedd yna gymaint o blant ei fryniau genedigol heb Feibl i'w ddarllen, nac Efengyl i oleu eu meddyliau. Ymddanghosai yr ysbryd a losgai ym mynwesau Glyndwr a Llewelyn yn hollol farw. Torrai ambell i fflam o'r hen dân allan yn awr ac yn y man yn ymddygiadau a chyflawniadau rhyw hanner dwsin o wladgarwyr, ond yr oedd y genedl, fel cenedl, yn fwy tebyg i un yn cysgu nag i genedl yn teimlo ei chyfrifoldeb. Gydag eithriad neu ddau, nid oedd bardd o Gaergybi i Gaerdydd wedi canu cân â bywyd ynddi ers llawer o flynyddau. Beth oedd yr achos? Pwy oedd i'w feio ? Nid oedd ond un ateb yn bosibl. Y grefydd Babaidd oedd yn gyfrifol am y cyfan. Beth bynnag oedd y gyfundrefn grefyddol hon wedi wneyd mewn gwledydd ac i genhedloedd ereill, y gwir am dani yng Nghymru oedd, ei bod wedi gorwedd am y canrifoedd y cafodd. feddiant o'r wlad fel hunllef ar ysbryd y genedl, a phe cawsai lonydd i ddal gafael ynddi am ganrif arall, neu lai, buasai wedi ei lladd. Hyd yn oed y pryd hwnnw yr oedd yr ysbryd cenedlaethol mor ddiymadferth, ar ol trwm-gwsg canrifoedd, fel nad oedd ond ychydig o ddysgedigion yn gwybod ystyr y gair "Eisteddfod;" ac nid oedd y delyn yn cael ei chware nemawr byth, ond mewn tafarndai a gwylnosau. Nid oedd ond un o bob tri chant o'r werin bobl yn medru ysgrifennu eu henwau. Yr oedd y rhan fwyaf o'r chwareuon cenedlaethol yn anfoesol ac anweddaidd, a mwy na hanner offeiriaid y plwyfi yn feddwon ac anlladwyr. Gwelai yn eglur pa fodd yr oedd Pabyddiaeth yn gyfrifol, ac yn uniongyrchol gyfrifol, am y sefyllfa druenus hon, a gwelai yn eglurach fyth, mai yr unig ffordd i godi yr hen wlad yn ei hol oedd trwy symud iau'r Pab yn hollol oddiar ei gwarr, a'i dysgu i symud ei golygon oddiar ddelfrydau isel y ffeiriau Sul, y gwyliau Mab Sant, y gwylnosau, a difyrion cyffelyb, a'u gosod ar ddelfrydau y beirdd, y llenorion, a'r gwladgarwyr gwir Gymreig oedd yn deall anghenion eu cenedl.
Wedi'r cwbl, ymddiheai ei enaid am un gipolwg ar wyneb Delyth Kyffyn, ac ar ol ymddiddan â Wil Pilgwenlly ar ffordd Machen, yr oedd yr ymddihead wedi tyfu er ei waethaf yn