Tudalen:Ifor Owen.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y marchogwr mor ryfedd,—mor debyg i eiddo un o'r hen offeiriaid Derwyddol, neu un o Farchogion Mari Lwyd,—fel ag y buasai Ifor yn cilio rhagddo oni bai ei lais, a'r hyn a ddywedodd.

Ar ol symud yn ddigon pell o glyw y dorf, daeth Wil i ymyl Ifor drachefn, ac heb golli eiliad o amser, dywedodd,—

"Nid amser i ymddiddan ydyw hwn, ond i weithredu. Felly nid egluraf ond yr hyn sydd yn angenrheidiol i ddeall pethau. Gwylnos briodas ddygodd y ffyliaid yma at eu gilydd. Merch y dafarn yw'r briodferch. Dyna sydd yn cyfrif am y dosbarth o bobl wahoddwyd i'r wledd. Cyfeillion Die Rolant ydynt. Mae cymaint o'i ddelw arnynt ag sydd o'i gwrw a'i fêdd[1] ynddynt. Maent nid yn unig yn anweddaidd eu hiaith a'u hymddygiadau, ond y mae Rhysyn Phil y telynwr wedi chware cymaint o ddiawl i'w coesau a'u hymenyddiau, fel na synnwn i fawr gael. ar ddeall fod rhai wedi eu lladd, llawer wedi eu hysbeilio, a llawer ereill wedi eu—.

"Ond, Wil, beth am Meistres Delyth Kyffyn yn y cerbyd—?"

"At hyny yr wyf yn dwad. Pan oedd rhialtwch cwmni'r wylnos briodasol ar ei uchaf, daeth y cerbyd acw i fyny at y drws. 'Roedd y Cwnstabl a'i ferch wedi bod mewn rhyw ddawns neu gilydd yn y dref, ac yn dychwelyd adref pan gollodd y ceffyl bedol. Nid cynt y clywodd y dyhirod y gwas yn dweyd ei helbul, nag y rhuthrasant allan i weld y Cwnstabl; a phan welsant y foneddiges, hawlient gusan ganddi. Mae'n debyg i'r hen fachgen, ei thad, golli ei dymher wrth glywed eu ffwlbri, a gosod ei ddyrnau yn rhy agos at dalcenau rhai o'r mwyaf hyf. Wrth gwrs, yr oedd y brasder yn y tân ar unwaith, a phan ddechreuodd y Cwnstabl fygwth aeth yn fflam, ac fel y gweli y mae'r fflam erbyn hyn bron mynd yn goelcerth."

"Wil anwyl, dyna ddigon o eglurhad, gad i ni weithredu ar unwaith."

"At hynny 'rwyf yn dwad. 'Nawr am y modd i weithredu. Pe buasem yn ymyrryd yn gynt, digon tebyg y buasai'r Cwnstabl yn hunanddigonol, os nad yn anibynnol, yn enwedig pan welsai. pwy oedd am waredu ei ferch; ond erbyn hyn y mae pethau

wedi cyrraedd eithafbwynt, a bydd yn llawen ganddo weld rhyw

  1. Methyglyn (mead).