Tudalen:Ifor Owen.djvu/48

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fath o achubydd. Aros funud arall i ni gael deall ein gilydd yn berffaith. Weli di'r dyhiryn acw yn ceisio llusgo Meistres Delyth allan trwy ddrws y cerbyd. Bydd yn llonydd un eiliad, gwnaf i Twm Dwt afael yng ngholer hwn acw. Pan welant ef yn hofran yn yr awyr, a minnau yn y wisg offeiriadol a'r farf wen fawr yma yn erchi i Twm i'w ysgwyd, ac yn y blaen, parlysir hwynt am ychydig. Tra byddant ym meddiant y dychryn a'r dyryswch, rhaid i ti ddod ymlaen yn dawel, tynnu y ceffyl di-bedol o'r cerbyd, rhoi dy anifail dy hun yn ei le, a chyn y cânt foment o amser i feistroli eu syndod, a meddiannu eu hunain, gyrr am dy fywyd i Gasnewydd!"

Ni ddaethant yn rhy gynnar at y cerbyd. Yr oedd adyn mwy na hanner meddw wedi llwyddo i gael ei freichiau am berson Meistres Delyth, ac yn ei thynnu o'r cerbyd gyda rhegfeydd anweddaidd, pan garlamodd Twm Dwt a'i farchog rhyfedd i'w ymyl o'r tywyllwch, heb i neb glywed swn ei garnau nes oedd yn ei ymyl. Mewn ufudd-dod i orchymyn Wil, tynnodd Twm ei dafod mawr dros wddf yr ysgelerddyn oedd yn ceisio anfrio. Meistres Kyffyn, a phan deimlodd yr adyn delpyn twym, byw, yn symud dros ei warr, gollyngodd ei afael o'r foneddiges mewn. hanner eiliad, ac edrychodd dros ei ysgwydd i gael gweld oddiwrth ba beth yr oedd yn rhaid iddo ddianc. Pan welodd safn fawr Twm Dwt yn agored uwch ei ben, a dwy rês o ddannedd melynion yn nesu ato, a Wil Pilgwenlly yn ei wisg wen, a'i farf hir, rhyngddo â'r wybren, credodd fod Balaam a'i asyn, neu farchog y Datguddiad a'i farch gwyn, wedi dod i'w gosbi, a meddianwyd ef gan y fath arswyd, fel nas gallai symud llaw na throed pe cawsai'r bydysawd am wneyd. Pan welodd y dorf ef y funud nesaf yn hongian yn yr awyr, a'r anifail rhyfedd oedd wedi gafael â'i ddannedd yn ei goler yn ei ysgwyd drachefn a thrachefn mewn ufudd-dod i'w farchogwr, meddianwyd hwythau gan ddychryn, a rhuthrasant ymaith fel pobl yn ffoi o dŷ ar dân, gan adael llonyddwch ac amser i Ifor a Wil gario allan eu cynlluniau.

Er hyn i gyd, 'roedd cychwyn y cerbyd cyn yr adfeddianai'r dorf ei hun a dychwelyd, yn fwy o orchwyl nag a feddyliasant. 'Roedd Meistres Delyth wedi cadw ei hunanfeddiant yn berffaith