Tudalen:Ifor Owen.djvu/53

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy datganodd ei chydsyniad hollol âg ef pan y condemniai Siarl a Laud am orchymyn i'r offeiriaid ddarllen y Llyfr Chwareuon yn yr eglwysi. A phan y datganodd ei lawenydd am fethiant Siarl i ddal y pum aelod seneddol, yr oedd mor awyddus i wneyd esiamplau ohonynt am feiddio ameu ei ddoethineb anffaeledig, aeth hi gam hir ymhellach, a dywedodd yn ddifloesgni o flaen hanner llond y Neuadd o brif bobl y sir, pe buasai hi yn un o'r Seneddwyr oedd yn bresennol y dywedasai wrth Siarl fod ei bresenoldeb yno yn sarhad ar y Tŷ, ac ar ei swydd fel Brenin gwlad rydd. Er hyn i gyd, yr oedd y ffaith ei bod yn Babyddes o'r Pabyddion, ac Ifor yn Biwritan, os nad yn Anghydffurfiwr i'r gwaelod, wedi peri i Breddyn gymeryd yn ganiataol nad oedd y perygl lleiaf iddynt edrych ar eu gilydd fel cariadon. Bu yn hir o'r farn hon, ond digwyddai amgylchiadau, yn awr ac yn y man, oedd yn siglo ei ffydd hyd y gwraidd, ac yr oedd cymaint o'r rhai hyn wedi cymeryd lle yn ddiweddar fel yr oedd wedi galw ei ganlynwyr ynghyd i fabwysiadu rhyw gynllun effeithiol i 'neyd ymaith â'r dyn dwad."

Nid oedd Ifor heb wybod am eu dichellion, ond gyda dibrisdod. dyn cryf a hunan-hyderus, ni thalai fawr sylw i ddim a wnelent. nag a ddywedent.

Dyma'r adeg y llwyr argyhoeddwyd ef nas gallasai bywyd, iddo ef, ar ei oraf a'i brydferthaf, fod yn werth ei fyw heb Meistres Delyth. Nid oedd wedi cyfnewid dim yn ei farn am Babyddiaeth a Phabyddion, nac wedi cael dim lle i gredu fod Meistres. Kyffyn ychwaith wedi gwneyd. Credai yn hollol ddywediad. cryf ei dad, mai o bob ieuo anghydmarus, ieuo gŵr o Brotestant â gwraig o Babyddes oedd y mwyaf anghydmarus yn y byd. Ac eto, ymawyddai ei holl fodolaeth am Delyth. Yr oedd yn ei charu â chariad cryfach nag angeu. A chredai ei bod hi yn dychwelyd ei serch yn llawn.

Meddyliai ambell waith am roi'r mater yn glir ger ei bron i gael gweld os oedd rhyw obaith i'w hennill drosodd i'r grefydd a broffesai ef, ond pan ddechreuai baratoi ei feddwl a dosbarthu ei ymresymiadau, a'i ffeithiau ar gyfer y gorchwyl, teimlai a gwelai lu o anhawsderau'n codi na freuddwydiodd am danynt o'r blaen.

Gwyddai yn eithaf da nad dim un math o resymeg fuasai yn peri i Delyth roddi fyny ei ffydd, os na chai argyhoeddiad trwyadl