oedd Breddyn Kemys wedi gwneyd ei feddwl i fyny, doed a ddelo, y tro cyntaf y gwelodd Meistres Delyth Kyffyn yng nghyfarfod Wroth a Chradoc yn Llanfaches, y mynnai ei chael yn wraig. Nid oedd wedi colli diwrnod ar ol cael ei hun yn rhydd o ddwylaw yr awdurdodau, gymerodd afael ynddo yr adeg honno, cyn gwneyd ei benderfyniad yn hysbys i'r Cwnstabl a'i ferch. Ond, rywfodd, er iddo gymeryd trafferth i wneyd ei hun yn hysbys fel nai a ffafryn Syr Nicholas Kemys, Cefn Mably, nid oedd y ferch yn rhy barod i estyn llaw gyfeillgar iddo. Ond os nad oedd gan Breddyn nemawr o rinweddau ereill, yr oedd ganddo benderfyniad diysgog, ac unwaith y gwnai ei feddwl i fyny, i wneyd, neu gael rhywbeth, ni pheidiai a dilyn ei benderfyniad cyhyd ag y cai nerth ac adnoddau o rywle i'w helpu. Felly yr oedd wedi profi ei hun yn y mater hwn. Ar ol methu gwneyd argraff ffafriol mewn un ffordd, cynhygiai ffordd arall, a phan gai ar ddeall nad oedd honno eto'n ffordd lwyddiannus, gwnai drydedd ymgais ar linellau hollol wahanol, ac ni feddyliai am roddi i fyny ymdrechu ar ol cant o gynhygion, os byddai ganddo ddigon o anadl yng ngweddill i ddechreu'r ail gant. Dyna oedd ei hanes er pan gafodd y fraint gyntaf o ymweld â'r Castell. Ond rywfodd, er troi'n Babydd, er rhoi i fyny meddwi'n gyhoeddus, er llwyddo i bob ymddanghosiad allanol i ddiwygio ei chefnder,—Hywel. Kyffyn, y dyhiryn seguraf a mwyaf anfoesol yn y dref,—er dod. a'i ewythr enwog yn bersonol i'r Castell, ac yn fwy na'r cwbl, er ennill cydsyniad ei thad, ni fynnai Meistres Delyth wneyd dim â Breddyn Kemys fel cydnabod, heb son am gyfaill na chariad. Er yn gweld ei fod cyn belled ag ar y dechreu o'i ffafr, nid oedd. y carwr penderfynol wedi breuddwydio am arafu yn ei ddyfalwch. pan ddaeth Meistr Ifor Owain yn ymwelydd cyson â'r Castell ar ol y digwyddiad ar ffordd Caerdydd.
Yr oedd yn amlwg, nid yn unig i Breddyn Kemys, ond i holl fynychwyr Neuadd y Castell, fod gan Meistres Delyth syniad eithriadol uchel o'r dechreu am y newydd-ddyfodiad, ond ymddanghosai ei bod yn meddwl mwy nag erioed o hono er y noson y gwaredodd hi o afael gwallgofiaid Llaneirwg. A'r hyn oedd yn synnu llawer, ac yn poeni Breddyn, oedd ei bod yn cymeryd ei blaid mor aml pan fynegai rai o'i syniadau hyfaf. Unwaith neu