Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/55

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ychydig, oherwydd prinder a safle y canhwyllau. Wedi eistedd o hono yn gysurus, cymerodd Ifor gipolwg ar ei gydaddolwyr, yn enwedig y rhai oedd yn dyfod i fewn o un i un ar ei ol. Am gryn ysbaid, nis gwelodd neb yno barodd iddo synnu at ei bresenoldeb. Gydag eithriad neu ddau, yr oedd yn adnabod pob aelod o'r gynulleidfa, ac yr oeddent oll naill ai o'r un syniadau crefyddol a Wroth, neu mewn rhyw raddau o gydymdeimlad â'i olygiadau. Yn sydyn, fodd bynnag, gwelodd ddwy foneddiges yn dyfod i fewn yn araf, a braidd yn ofnus, a gwyddai, er fod gorchudd ar wynebau y ddwy, mai Meistres Delyth a'i morwyn oeddent. Cawsant le i eistedd gyferbyn â Ifor, a'u cefnau tuag ato. Beth yn enw'r nefoedd a'r ddaear oedd wedi cymell merch y Cwnstabl i ddod i'r fath le? Cofiai iddo ei gweld yn gwrando Wroth yn pregethu o'r blaen, ond yr oedd hi wedi egluro iddo lawer gwaith ar ol hynny mai cywreinrwydd yn unig a'i harweiniodd yno y tro hwnnw. Pan yn ceisio gwneyd allan faint o ffeithiau newyddion a welai yn llewyrch y gobaith newydd-anedig hwn, synwyd ef ymhellach wrth ganfod Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn yn cerdded i fewn i'r ystafell, ac yn cymeryd lleoedd apwyntiedig fel pe baent ddau o'r prif wahoddedigion. Yn fuan ar eu hol daeth Wil Pilgwenlly i fewn wedi ymwisgo fel swyddog milwrol, ac yn arfog. Yr oedd wedi llwyddo i ddieithrio ei ymddanghosiad i'r fath raddau fel na buasai Ifor yn breuddwydio mai efe ydoedd oni bai am "fan cyn geni" bychan y tu ol i'w glust ddeheu oedd wedi sylwi yn ddamweiniol arno y tro cyntaf y gwelodd ef. Gyda hyn, daeth Wroth a'i letywr i'r llwyfan, a dau neu dri o Anghydffurfwyr amlwg y dref. Cododd mwyafrif y gynulleidfa ar eu traed pan ddaeth i fewn, fel y byddent yn arfer gwneyd yn eglwys plwyf, ond archodd iddynt eistedd ar unwaith, ac uno gydag e i blygu eu pennau o flaen eu Tad Nefol, ac ufuddhaodd pawb yn y lle, ac eithrio Breddyn Kemys a Hywel Kyffyn. Dechreuodd Ifor ofni wrth weld eu hymddygiad eu bod yno i amcan drwg, a phenderfynodd gadw ei lygaid arnynt.

Gan mai pur anfynych y mynychid oedfaon y Piwritaniaid yn y rhan hon o'r wlad gan swyddogion milwrol, oddieithr pan ddeuent yno fel ysbiwyr, neu i lusgo rhai i'r carchar, edrychai pawb, heb eithrio Wroth ei hun, ar Wil dipyn yn amheus, os