Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/54

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mai ffydd ddisail ydoedd. Gwyddai hefyd er paroted oedd i chwerthin am ben ofergoelion nodweddiadol ei chydgenedl, ac er cyflymed oedd i weld y man gwan ym mhob honiad disail, nad oedd yn ei gallu, rywfodd, i edrych ar yr un o ofergoelion y Babaeth yn y goleu hwn. Cai ddifyrrwch parhaus wrth wrando hanes a gweithrediadau y bobl oedd yn credu â'u holl enaid yn y Tylwyth Teg, Canhwyllau Corff, Gwrachod y Rhibyn a Chwn Annwn ond methai yn ei byw weld fod yna ddim yn ffol ac ofergoelus yn honiadau y Babaeth, pan y tystiai offeiriaid yr eglwys honno fod dwy gostrelaid o dywyllwch yr Aifft ym meddiant awdurdodau un o eglwysi'r Cyfandir, ac fod y cwpan o ba un yr yfodd y Ceidwad y finegr yng nghadw mewn lle arall, tra yr oedd digon o ddarnau o'r groes ar gael i wneyd o leiaf ddeg o groesau newydd.

Tua'r adeg yma, cynyrchwyd pelydryn o obaith yn ei fynwes ar y mater hwn pan oedd wedi gwneyd ei feddwl i fyny bron yn derfynol nad oedd yr elfennau angenrheidiol i'w gynyrchu yn bodoli yn unman.

Yr oedd wedi clywed gan ei dad fod nifer o'r Anghydffurfwyr yn arfer cyfarfod yn awr ac yn y man i addoli mewn llofft yn Heol y Felin, Casnewydd. Nid oeddent wedi ffurfio eu hunain yn eglwys y pryd hwnnw, nac yn cynnal unrhyw wasanaeth crefyddol yn rheolaidd, ond yr oedd yna un o'u nifer yn gweithredu fel math o ysgrifennydd i'r cwmni bychan, ac yn eu galw at eu gilydd pan fyddai rhyw bregethwr neu efengylydd yn mynd ar Daith drwy'r dref neu'r sir, ac yn barod i'w hannerch cyn mynd ymhellach. Y noson yr ydym yn son am dani, digwyddai yr hybarch William Wroth fod yn aros gyda chyfaill a disgybl ger- y Castell, ac yr oedd i bregethu am wyth o'r gloch yn y llofft enwededig. Yr oedd enw Wroth y pryd hwnnw yn adnabyddus trwy holl sir Fynwy, a rhannau helaeth o Ddeheudir Cymru, ac yr oedd ei glod fel pregethwr tanllyd a didderbynwyneb yn gyfryw fel pa le bynnag y disgwylid ef i bregethu, byddai yno dyrfa yn barod i'w wrando. Yr oedd Ifor a'i dad ymysg ei wrandawyr y tro hwn, ac yr oeddent yno yn gynnar, er mwyn cael lle cyfleus i weld a chlywed y pregethwr. Digwyddai y lle a ddewisasant fod yn un hynod gyfleus iddynt weld pawb oedd yn yr ystafell, heb gael eu gweld a'u hadnabod eu hunain ond gan