Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Ifor Owen.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddwy ar yr hyn sydd gennyf i'w fynegu i ti, ac yna byddi yn gwybod pa gwrs i'w gymeryd. O leiaf, byddaf fi wedi gwneyd popeth yn fy ngallu i'th roi yn y gole. Ga'i ofyn i ti yn gyntaf ym mha ole yr wyt yn edrych ar fy ngwaith i yn dweyd y pethau yma wrthyt. Feallai dy fod yn edrych arnaf fel cecryn ymyrgar, y byddai yn well gennyt weld fy nghefn na fy ngwyneb!"

"Gwarchod ni, Wil! Cred fi, yr wyf wedi dy gyfrif yn un o'm cyfeillion ffyddlonaf er pan gyfarfyddais di gyntaf, a galwaf Duw yn dyst!"

"Un gofyniad arall. Wyt ti'n parhau i gredu yn Sesyl Ifan, yn ei ddelfrydau a'i amcanion, a'i gynlluniau?"

"Ti ddylet wybod fy mod wedi rhoddi fy ngair i'r gŵr rhagorol a enwi, pe cynghorai fi i ymuno â byddin y Senedd yfory y cariwn allan ei gyngor, heb eiliad o betrusder."

"Sh—, cofia fod gan furiau, hyd yn oed pan y maent mor drwchus a muriau Glan y Don, glustiau weithiau. 'Nawr, gwrando. Mi wn dy fod wedi bod yn synnu lawer gwaith pa fath greadur yw dy wâs. Yr wyt wedi dyfalu droion beth all fod ei amcan wrth bresenoli ei hun mewn cynifer o fannau, a chwilio allan bethau am bawb a phopeth, a byddai yn ddigon naturiol i ti dynnu'r casgliad nas gall neb a wna y fath bethau fod yn gweithredu oddiar egwyddor deilwng iawn. Wel, yr unig eglurhad fedraf roddi heno yw fy mod yn gwneyd y cyfan dan gyfarwyddyd Sesyl Ifan, ac mai fy unig amcan ydyw casglu gwybodaeth ymddiriedol am symudiadau gelynion ein hachos ni,—achos y Senedd, ac achos mawr y bobl. Pwy ydwyf, ac o ba le y daethum, sydd ddirgelwch nad wyf wedi egluro i Sesyl Ifan ei hun. Ond y mae ganddo yr ymddiried llwyraf ynnof er hynny. Wrth gasglu gwybodaeth am yr "Achos Mawr," yr wyf wedi gweld a chlywed llu o bethau na cheisiais eu gwybod mewn un ffordd. Rhai ohonynt mor llawn o ddifyrrwch, fel pan fydd yr ymdrech fawr ddyfodol gyda Siarl a Laud wedi cymeryd lle, a Chymru yn wlad rydd,—os byddaf byw ar ol ein buddugoliaeth,—caf achos i chwerthin, ac i wneyd ereill chwerthin, wrth eu cofio ar hyd fy oes. Ereill mor llawn o ddiafol fel yr wyf yn synnu y funud hon pa fodd wyf wedi dianc yn fyw o'r llu o gysylltiadau agos â'r mileiniaid oedd yn eu cynllunio. Ymhlith y rhai olaf, y mwyaf pwysig o lawer oedd cynlluniau a