bwriadau Breddyn Kemys i dy gael di o'r ffordd y cyfle cyntaf yn bosibl. Y maent wedi penderfynu ar yr adeg, y lle, y dull, a'r cyfrwng i'th symud,' ac os na chymeri di y cam cyntaf,—cred fi,—nid oes gennyt ond amser byrr i fyw. Gwn nad oes arnat ofn hanner cant o fath Kemys, mwy na sydd arnaf finnau. Ar yr un pryd, byddai'n ddoeth ynnot i beidio symud cam i un man heb fod yn arfog. A phan fydd yn rhaid i ti dramwy y nos, dylet wneyd hynny ar gefn dy geffyl cyflymai, ac yng nghwmni un o'th weision, o leiaf."
"Am faint o amser y credi y bydd raid i mi fyw ar y llinellau yna?"
"Mae hynny yn dibynnu yn hollol ar y mesurau gymeri di i ddelio â'th elynion."
"Pa fesurau wyt ti'n gynghori?"
"Wnei di ddilyn fy nghyngor i?"
"Gwnaf, hyd y gallaf."
"Wel, pe bawn i yn dy le, y cam cyntaf a gymerwn i fyddai rhoddi hysbysiad llawn i Meistres Delyth Kyffyn o'r perygl y mae hi ynddo. Dywed wrthi yn eglur ei fod ym mwriad y dyhirod y soniwn am danynt, nid yn unig i dy 'symud' di o'u ffordd y cyfle cyntaf a gânt, ond mai eu hamcan wrth wneyd hyn yw cael ffordd rydd i gymeryd meddiant o'i pherson hi! Rhybuddia hi i fod ar ei gwyliadwriaeth ddydd a nos. Ar ol i ti foddhau dy hun dy fod wedi llwyddo i roi argraff glir a dofn o'i pherygi ar ei meddwl, y cwrs diogelaf i ti i'w gymeryd wedyn fydd mynd am dro i Neuadd Urien, ac aros yno nes bydd i'r elyniaeth wyt wedi cynyrchu ym mynwes Breddyn Kemys ddiflannu a marw."
"Bendith y Mamau, Wil! Wyt ti'n meddwl pe bawn i mewn y can cymaint o berygl am fy mywyd y meddyliwn am hanner eiliad am fy niogelwch fy hun tra mae Delyth, Meistres Delyth Kyffyn, yn y perygl wyt wedi ddesgrifio! Wyddost ti beth
.""Gwn, mi wn yn eithaf da beth wyt ti'n mynd i ddweyd. Ond gan dy fod wedi penderfynu y byddai yn hollol anghyson a'th gred a'th broffes i briodi Pabyddes, a chan fod Meistres Kyffyn yn debyg o barhau yn y ffydd honno, ac fod y ffaith hon wedi'th gadw rhag rhoddi un math o ddatguddiad o'th serch tuag ati, nid oes dim rhwymedigaeth arnat ti i wneyd rhagor na'i rhybuddio'n onest o'i pherygl."