Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'r awyr yno yn nerth ac iechyd i'r sawl a'i sugno. Cusenir y traeth hyfryd gerllaw gan y dòn sydd yn golchi tros adfeilion Cantref y Gwaelod. Yn y cyfeiriad arall, bedair milldir i fynu'r dyffryn, ymsaetha Craig y Deryn yn unionsyth bron o wely'r afon ganoedd o droedfeddi tua'r nwyfre las; a chan fod ei ehediaid mor amryfath, gallem dybied fod pob llwyth o fôr-adar sydd yn Ynys Prydain yn cael ei gynrychioli yn mysg y rhai a glwydant ynddi. Am yr afon a'r Graig aruthr hon, saif Peniarth, palas y Wynniaid, enwog am ei lyfrgell annghydmarol; ac, heb fod yn nepell, ar y tu arall, saif ffermdy Tynybryn, lle ganwyd Wm. Owain Pughe, ac yn Dolydd Cau, yn mhlwyf Talyllyn gerllaw, y bu farw y doethawr trylen. Ychydig uwchlaw hyny, y mae un o'r llanerchau mwyaf rhamantus, gwyllt, unig, a breuddwydiol sydd yn Nghymru, sef Llyn Talyllyn. Yr ochr ogleddol i Dowyn drachefn, am yr afon â'r dreflan, mewn hafn ar lun haner lleuad â'i wyneb ar y môr, wrth droed y mynydd, saif hen gartref y Puritan nefolaidd ei yspryd, Huw Owen o Fronyclydwr, coffadwriaeth yr hwn a bereneiniwyd gan awen y farddones Elen Egryn, mewn marwnad nad oes ei thlysach, efallai, mewn iaith. Fe welir fod yn ardal Towyn ddigonedd o olygfeydd, adgofion, a thestynau myfyrdod, i gynhyrfu galluoedd bardd o anianawd farddonol Ceiriog. Yr oedd yn mysg ei gymydogion hefyd amryw lenorion. adnabyddus, a dynion eraill annghyhoedd ond hynod o ddarllengar, cofus a gwybodus. Er hyn oll, credwn mai ystod ei arosiad yn Nhowyn oedd y cyfnod mwyaf awenyddol ddiffrwyth o'i holl fywyd. Gan na bu yno ond tua blwyddyn a haner, dichon fod yr amser yn rhy fyr iddo wneud gwaith pwysig; a dichon hefyd fod ei feddwl wedi ei orweithio gan bryder a gofalon ei fywyd trafferthus yn ngorsaf Llanidloes, fel yr hawliai orphwysdra dros amser, a gorwedd am dymhor yn "fraenar ha".