Yn 1871, penodwyd ef yn arolygydd ar y reilffordd oedd newydd ei hagor o orsaf Caersws, ar y Cambrian, i waith mŵn y Fan, yn mhlwyf Trefeglwys; a chan nad oedd y tŷ yn Nghaersws, a fwriedid iddo fel arolygydd, yn barod, bu am yspaid byr yn byw mewn tŷ arall perthynol i'r cwmni islaw Trefeglwys.
Daeth felly yn gymydog agos i'w gyfaill ffyddlon a thalentog Nicholas Bennett, Ysw., Glanyrafon, palasdy tua dwy filldir o Drefeglwys, a chwe' milldir naill ai o Lanidloes neu Gaersws. Gwelodd Mr. Bennett yn nghaneuon cynaraf Ceiriog addewid am fardd uchelryw. Darllenai bobpeth y gwelai ei enw wrtho; ac wedi darllen y gân a elwir yr "Eneth Ddall," sydd yn Oriau'r Bore, ysgrifenodd ato i'w longyfarch. Parodd hyn ohebiaeth rhwng y ddau, ac enynodd gyfeillgarwch a barhaodd hyd angau. Saif y drigfa ddedwydd hon (Glanyrafon) mewn cwm cul a ddyfrheir gan afonig o'r enw dyeithr Tranon. Y mae'r dreftadaeth yn meddiant y teulu, o dad i fab, er's tros dri chan' mlynedd, a'i thir yn ymestyn o waelod y cwm i grib y mynydd. Nid yw Mr. Bennett, megys y mae arfer rhai, yn gosod y saethu; ceidw y sport iddo ei hun a'i gyfeillion; ac y mae ganddo gŵn tan gamp at y gwaith. Prawf pob man o gylch y lle fod amaethyddiaeth yno yn ei goreu. Un o ddifyrion Mr. Bennett ydyw cadw gwenyn, o'r rhai y mae ganddo gycheidiau afrifed bron; efe a adnebydd eu tymhorau, eu harferion, ac y mae yn eu trin, fel y dywedir, ar scientific principles. Wrth fwynhau y pleser o'u magu, eu moethi, a'u hanwesu, gwna iddynt gynyrchu elw da am eu cadw. Byddai yn werth i Syr John Lubbock ddyfod yr holl ffordd o Lundain, er gweled y gofal a'r ddarbodaeth a roddir yn y llecyn anhygyrch hwn i'w hoff drychfilyn ef; ac yn ddiau, fe ddylai pob Cymro darbodus sydd yn byw o fewn ugain milldir i Glanyrafon, fyned yno i gael gwers pa fodd i fwynhau budd a gwir adloniant ar yr un pryd.