Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Ceiriog Hughes (gan Llyfrbryf).djvu/121

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

chynllunio yn gywrain a'i gorphen yn hapus. Pwy nad adnebydd ei hawdwr yn y llinellau canlynol, sydd fel rhagymadrodd iddi, ac yn codi cauad y blwch nardus nes yw'r perarogl yn llanw'r ystafell:—

FLODEUOG wlad y traserch mawr,
Gwlad deg y llwyni gwyrddion;
Y fro lle chwery heulog wawr,
Trwy ganol ei chysgodion!
A feiddiaf fi, ar ol goroesi
Fy nghalon ifanc, eto'th groesi!

A feiddiaf fi fyn'd yn fy ol
I boethder y cyhydedd,
Lle mae doethineb dyn yn ffol,
A cholli cwsg yn rhinwedd?
I'r wlad lle mae'r angherddol galon
Yn tori'i syched mewn ffrydiau poethion!

Y wlad mae gormod gwres yn iach
I'w merched ac i'w meibion;
Y wlad mae awyr glauar fach
Yn lladd ei holl drigolion:
Gwlad yr Efä-on a'r coed afalau,
Y seirph afrifed, a'r temptasiynau!


Tua chanol y gerdd, cawn ein cydwladwr o Benmynydd Mon, Syr Owen Tudur, yn Nghastell Windsor, yn ymheulo tan wenau a ffafrau ei gariadferch frenhinol Catrin o Ffrainc, a'i llaw-forwynion pendefigaidd-Marian Grey, Elizabeth o Gaen, ac eraill. Breuddwydion ydyw testyn ymddyddan y cwmni urddasol; apelir ato ef am ei farn arnynt; a dyma hi:—

"FE dd'wedir," meddai yntau, "fod holl helyntion oes,
Yn lle d'od fel breuddwydir, yn d'od yn hollol groes:
Ond mae athronwyr eraill, fel gwelsoch weithiau ffyn,
Yn hollol groes i'w gilydd yn nghylch y pethau hyn;
Yn d'wedyd fod Breuddwydion yn fath o fodau mân
O oleu-leuad caled, heb arnynt flew na gwlan,
Na phlyf nac unrhyw orchudd, oddigerth math o wê
A wnant o waith pryf copyn; a chanddynt hwy yn lle
Y synwyr i adgofio am bethau wedi bod,
Fod ganddynt hwy wybodaeth am bethau sydd i dd'od!
Dechreu'sant hwy eu gyrfa yn niwedd amser mawr,
A ninau o'r pen arall a'u cwrddwn hwynt yn awr,