Cyffelyb gymwynas ag a wnaeth Moore a Burns i gerddoriaeth genedlaethol Iwerddon a Scotland a wnaeth Ceiriog yntau i'r eiddo Cymru. P'run oedd y goreu o'r tri? meddai rhywun. Wel, ac imi ateb fel Cymro, Ceiriog o ddigon. A pha Gymro bynag a ddywed yn amgen, naill ai ni chollodd ddeigryn erioed uwchben barddoniaeth, neu ni ddarllenodd erioed waith y tri bardd godidog,
Cawn ganddo hefyd tua 25 o ganeuon yn perthyn i'r dosbarth a elwir yn gysegredig. Cyfansoddodd y rhai hyn yn benaf ar gais ac at wasanaeth Ieuan Gwyllt ac Owain Alaw; ac y mae o leiaf un ohonynt yn dwyn nodau yr eneiniad hwnw sydd ar yr emyn a wthia ei hun bob amser i gof a serch y bobl, sef yw hono, "'Rwy'n llefain o'r anialwch," &c.
Am y rhelyw o'i Ganeuon, y maent wedi eu priodi bron i gyd hefo miwsig gan yr offeiriaid cerddorol canlynol:
J. D. JONES, Rhuthyn.
OWAIN ALAW.
GWILYM GWENT.
D. LEWIS, Llanrhystyd.
ALAW DDU.
J. THOMAS (Pencerdd Gwalia),
Telynor ei Mawrhydi.
BRINLEY RICHARDS.
Dr. JOSEPH PARRY. Mus. Doc.
D. EMLYN EVANS.
JOHN THOMAS, Llanwrtyd.
EDWARD STEPHEN.
IEUAN GWYllt.
D. JENKINS, Mus. Bac.
R. S. HUGHES.
JOHN HENRY.
Ac un o leiaf ohonynt gan Alaw Trevor, Gomer Powell, Ellis Roberts (Eos Meirion), a D. S. Parry, Llanrwst, yr olaf mor ddiweddar ag Eisteddfod Llundain. Fe welir mai ychydig o'i blant caneuol ef sydd yn ddibriod.
Ac yn awr, er mwyn cylymu y ddolen gyntaf yn y dalaith o fythwyrddion y buom yn ceisio ei gwau a'i dodi am arleisiau teilwng y bardd clodfawr, ni a ail-ddywedwn yma yr hyn a welir yn tudal. 5:— "Ei ymddangosiad cyhoeddus olaf oedd yn Neuadd Drefol Holborn, Llundain, ddydd Iau, Tachwedd 11, 1886, pan y cymerodd ran yn y cynulliad brwd-