frydig i ddathlu cyhoeddiad Eisteddfod fawr Caerludd. Efe yn sicr oedd arwr y cyfarfod hwnw. Mynodd y dorf ei gael i ffrynt y llwyfan, a rhoddi iddo groesaw teilwng o Gymry gwladgar Llundain i brif-fardd telynegol eu gwlad; a chroesaw ydoedd na chafodd yr un bardd Cymreig erioed o'r blaen, hyd y gwyddom, ei debyg."
Yr oedd yn amlwg y pryd hwnw fod rhyw afiechyd cyndyn wedi cymeryd gafael yn ei gyfansoddiad cadarn; er fod cyfarfod cynifer o'i hen gyfeillion yn ei sirioli am y tro, edrychai yn swrth, blinedig, a dwysfyfyriol. Lletyai tua 25 o lenorion, o Ddehau a Gogledd, yn yr un gwesty ag ef; ac yn ol arfer y frawdoliaeth hono, cynalient bob nos fath o noswaith lawen, i siarad ac ymgomio am farddas eu gwlad; ond efe, mor wahanol i'w arferiad, a giliai yn gynar i'w wely, gan ddewis gorphwysdra yn hytrach nag hyd yn nod gymdeithas ei gyfeillion llenorol—yr hon oedd mor amheuthyn ganddo. Ar ei gais, cysgem ein dau yn yr un ystafell; ac nid oedd Clwydfardd a Gwilym Eryri yn nepell. Penderfynodd ddychwelyd gyda'r trên oedd yn gadael Gorsaf Euston rhwng unarddeg a haner, nos Wener. Ceisiais fy ngoreu ei gymhell i aros tan dranoeth, gan y buasai'r daith yn fwy cysurus iddo yn y dydd nag yn yr oriau trymaidd hyny. Pa fodd bynag, adref y mynai fyned. Aethum i'w hebrwng i'r Orsaf; ac ychydig feddyliwn pan yn ysgwyd llaw âg ef wrth ymadael, ac y dywedai, "Rhaid i mi fyned y mae genych chwi ragor i'w wneud yma,' mor awgrymiadol oedd ei eiriau, ac mai dyna y tro diweddaf y gwelwn ef ac y clywn ei lais.
Dychwelodd adref i fynwes ei deulu yn ddyogel; a dychwelodd yr afiechyd gydag ef, gan enill nerth a gafael arno o ddydd i ddydd. Cafodd gystudd maith a phoenus. Gweinyddid arno yn ddyfal a gofalus gan ddwylaw tyner ei briod hoff a'i ddwy