yddia'r bardd yn y geiriau uchod at falu esgyrn carnfradwyr ei wlad, a'r wialen fedw frigog sydd yn ei law i geryddu "Tom Bowdwr yr Herwheliwr," un o bechodau trymaf yr hwn oedd "rhoddi cig y goes i'r ci a'r asgwrn coes i'w fachgen."
Ond y dernyn mwyaf gorchestol sydd yn y llyfr hwn, ac yn marn lluaws o gyfeillion Ceiriog, campwaith fawr ei oes ydyw Alun Mabon. Gan fy mod i o'r un farn â'r lluaws a grybwyllwyd, bu llawer dadl gyndyn rhyngwyf â'r awdwr ar wahanol adegau parth rhagoriaethau cydmariaethol Myfanwy a'r gân hon. Daliai ef yn dyn tros I; ond ni phrawf hyny ddim ond nad oes fawr ymddiried i'w roddi yn marn awdwr am ei gyfansoddiadau ei hun. Oni chredai Milton fod Paradise Regained yn llawer gwell na Paradise Lost! I'm tyb i, y mae Alun Mabon yn fwy gwreiddiol, ac o ganlyniad yn perchen mwy o hunaniaeth (individuality) yr awdwr, sef y nodweddion hyny sydd yn ei wahaniaethu oddiwrth eraill. Wedi'r cyfan, gwreiddioldeb meddyliol ydyw gogoniant bardd. Gallu ailraddol ydyw yr un efelychiadol neu ddynwaredol; nis gall yr eco byth ragori ar y llef a'i cynyrchodd, mwy na chyfieithiad ar y gwreiddiol. Caniatawn yn rhwydd fod darnau cystal yn Myfanwy ac yn A. Mabon, ond yno y mae'r awen yn fwy oriog ac anwadal—" un gynes ac oer ydyw hi,”—a'r meddyliau yn fwy cyffredin neu gyffredinol. Wrth ddarllen Myfanwy, gelwir arnom i roddi nòd o adnabyddiaeth flaenorol ar fwy nag un meddwl a ddaw ger ein bron; ond y mae newydd-deb yr olaf yn bur fel anadl y boreu. Sylwai un llenor mai "Pren afalau tan ei flodeu ydyw Myfanwy, a phren afalau tan ei flodeu a'i ffrwyth ydyw Alun Mabon." Y mae rhagoriaeth yr olaf ar y flaenaf yn hollol gyson â deddf cynydd a dadblygiad; canys rhaid i fywyd fyned rhagddo nes cyrhaedd ei lawn faint. Yr oedd Ceiriog yn tynu