RHAGYMADRODD.
Yr oedd yn mhlith cyfeillion y Bardd ymadawedig luaws cymhwysach na ni i ysgrifenu y byr-gofiant canlynol; ond yr ydym yn sicr nad oedd yr un ohonynt yn meddu syniadau uwch am ei athrylith na pharch mwy diffuant i'w goffadwriaeth. Daeth y gorchwyl i'n rhan ni yn y modd damweiniol a ganlyn: Yn fuan ar ol marwolaeth CEIRIOG, cawsom lythyr oddiwrth Mr. VINCENT EVANS, ar ran Cymdeithas Anrhydeddus y Cymmrodorion, Llundain, yn gofyn a darllenem ni Bapur o flaen y Gymdeithas hono, ar "J. CEIRIOG HUGHES:" yn nghydag Adgofion am dano. Wedi peth petrusder parth ein digonolrwydd i'r gwaith, atebasom yn gadarnhaol. Cymerodd y cyfarfod le, tan lywyddiaeth STEPHEN EVANS, Ysw., yn ystafelloedd y Gymdeithas, ar y 23ain o Fai, bedair wythnos union i'r diwrnod y claddwyd y Bardd. Fe welir fod yr amser yn rhy fyr i wneud dim ond sylwadau brysiog ac arwynebol; ond derbyniwyd hwynt yn groesawgar; a gobeithio ein bod yn ddigon henffel i wybod mai teilyngdod y gwrthddrych, ac nid dim yn y Papur, a barai hyny. Awgrymodd y Parch. J. ELIAS HUGHES, M.A., y dymunoldeb ini ei helaethu a'i argraffu; cymeradwyai amryw y cynygiad a chan roddi mwy o hyder yn marn eraill nag yn yr eiddom ein hunain, darfu ini gydsynio.
Ar ol ymgymeryd fel hyn â'r gwaith, penderfynasom ei gyflawni goreu gallem, trwy ddweyd yr hyn a wyddem eisoes am y Bardd, a chynull at hyny gymaint yn rhagor ag oedd yn ddichonadwy mewn amser byr a phrysur; ond ni fwriadwyd ac ni fwriedir yn awr i'r llyfryn hwn fod y Bywgraffiad o Ceiriog. Gan wybod gymaint ydyw dylanwad golygfeydd ar ffurfiad meddwl dyn, yn enwedig ar feddwl bardd (hen ddamcaniaeth a nodir gyntaf yn Nghymraeg gan Gutyn Padarn yn nghofiant John