Blackwell), ymwelsom â Dyffryn Ceiriog, bro enedigol y bardd, Mehefin 4ydd. Gwelsom ei frawd, Mr. DAVID HUGHES, a chawsom ganddo aml i gofnodiad dyddorol, cystal a chan ei berthynasau caredig sydd yn preswylio Penybryn yn bresenol. Pigasom rai awgrymiadau ar fin y ffordd wrth ymgomio gyda hen gymydogion yr hwn y ceisiem hanes ei ieuenctyd yn eu mysg. Gyda llaw, nid ydym yn gwybod i ni gyfarfod erioed yn un man â phobl mwy deallgar a synwyrol a thrigolion y cwm tawelgain hwn. Dywedant eu meddyliau mewn Cymraeg lân loyw, yn ddirodres ond yn gwbl foneddigaidd.
Ail ymwelasom â'r fangre drachefn, Mehefin 21, yn nghwmni ein cyfaill Mr. LLEW WYNNE; gwelsom y brodorion yn mwynhau dydd gwyl Jubili ein Brenhines; a chredem nad oedd gan ei Mawrhydi yn ei holl deyrnas ddeiliaid a dreulient eu gwyl yn fwy gweddus, llawen a rhesymol. Dygodd y Gwyn ei daclau photograffio gydag ef, a thynodd lun Penybryn; a thrwy ddyfais Meisenbach, yr ydym yn rhoddi copi ohono yn y llyfr hwn. Buom yn gohebu cryn lawer hefo Mrs. HUGHES, gweddw alarus y Bardd; a chawsom bob cymhorth a chefnogaeth ganddi gyda'r gwaith. Yn niwedd Awst, ymwelasom â Chaersws, lle y bu CEIRIOG farw; â Llanwnog, lle y mae efe yn "cysgu cwsg y bedd"; ac â Mr. BENNETT, yr ymddiriedolwr, i'r hwn y rhoes efe ofal ei amgylchiadau a'i ysgrifau.
Dyna ein trwydded.
Am y Darlun o'r Bardd, gweler tudal. 85.
Hyderaf y ca fy nghydwladwyr llengarol gymaint o bruddbleser wrth darllen y llyfr, er ei holl ddiffygion, ag y gefais i wrth gasglu ei ddefnyddiau a'u hysgrifenu i lawr.
- Medi 14, 1887.