Yr oedd yn pregethu ar y geiriau hynny yn Efengyl Matthew, xxv. 31—33, "A Mab y dyn pan ddel yn ei ogoniant, a'r holl angylion sanctaidd gydag ef, yna yr eistedd ar orsedd-faingc ei ogoniant. A chydgesglir ger ei fron of yr holl genhedloedd, ac efe a'u didola hwynt oddiwrth eu gilydd, megis y didola y bugail y defaid oddiwrth y geifr. Ac a esyd y defaid ar ei ddeheulaw, ond y geifr ar yr aswy." Yr oedd yn dungos y bydd dyfodiad Mab y Dyn yn ei ogoniant yn sicrhau y casgliad mwyaf, a hefyd y gwasgariad mwyaf. Y bydd yr holl genhedloedd yn cael eu casglu ger ei fron, fydd yr un genedl ar ol; mwy na hynny, fydd yr un person unigol perthynol i'r un genedl ar ol. Pan fydd y rhol fawr yn cael ei galw, fe fydd pob un yno i ateb ei enw. Yr oedd ei ddesgrifiad o'r angel yn chwilio gwahanol begynau y ddaear fel na fyddai yr un ar ol, y peth mwyaf byw ac effeithiol a wrandewais erioed; a'i ddesgrifiad o'r gwasgariad mawr yn nydd y farn y peth mwyaf toddedig ac ofnadwy.
Y tro nesaf y clywais ef yr oedd yn pregethu ar y geiriau hynny, "A llawer o bobl a'i gwrandawent ef yn ewyllysgar." Ei fater oedd poblogrwydd Iesu Grist fel pregethwr; gan ddangos beth oedd yr elfennau oedd yn cyfansoddi ei boblogrwydd. Danghosai fod yr Iesu yn bregethwr oedd yn cyfateb pob dosbarth o ddynion. Darluniai ef yn pregethu i gynulleidfa gymysg. Dechreua trwy ddweyd, "Wele yr hauwr a aeth allan i hau." Dychmygai y pregethwr fod twr o hen bysgotwyr yn y cwrdd, a bod y rhai hynny yn dod i'r casgliad, os gwyddai y pregethwr am hau, na wyddai ddim am bysgota. Ond gyda eu bod wedi dod i'r casgliad yna, y mae y pregethwr yn dyweyd, Cyffelyb yw teyrnas nefoedd i rwyd a fwriwyd yn y môr." Ac wedi iddo fyned ymlaen ychydig y mae yr hen bysgotwyr yn cael eu hargyhoeddi ei fod yn gwybod lawn cymaint am bysgota ag ydoedd am hau.
Y tro olaf y clywais ef,—ac O mor chwith yw gennyf feddwl fy mod wedi ei wrando am y tro olaf am byth, na chawn gyfle i eistedd o dan ei weinidogaeth yn oes oesoedd mwy, ni chlywir ei gyhoeddi i bregethu byth ond hynny,—y tro olaf y clywais ef yr oedd yn pregethu ar ddameg y mab afradlon, neu fel yr ewyllysiai ef ei galw am y tro,—dameg y mab hynaf. Yn y rhan gyntaf o'i bregeth yr oedd yn amddiffyn cymeriad y mab hynaf. Danghosai fod ganddo lawer o sail dros ddigio fel y gwnaeth. Yr oedd wedi bod yn fachgen mor dda, mor ddiwyd, a gofalus, nid oedd ei dad wedi cael y drafferth na'r gofid lleiaf ganddo. Wrth wrando ar y pregethwr yn amddiffyn y mab hynaf, yr oeddech yn barod i ddod i'r penderfyniad ei fod wedi cael llawer iawn o gam gan esbonwyr, a chan bregethwyr. Ond yn y rhan olaf o'i bregeth yr oedd yn condemnio y mab hynaf yn y modd mwyaf llym a diarbed. Danghosai ei ysbryd cul, hunanol, aniolchgar, a grwgnachlyd, ynghyd a'i deimlad caled, ac anmharchus at ei frawd, ar ei ddychweliad adref yn fyw o'r wlad bell. Yr oedd y tosturi gynyrchwyd ynnoch yn y rhan flaenaf o'r bregeth tuag at y mab hynaf, yn mynd fel us o flaen y gwynt yn y rhan olaf o honi. Yr oedd desgrifiad y pregethwr o'r afradlon yn y wlad bell, ei ddesgrifiad o hono yn codi ac yn mynd adref, a'i ddesgrifiad o'r tad a'r mab yn cofleidio ac yn cusinu eu gilydd, y peth mwyaf naturiol, toddedig, a byw.
Fy unig amcan ydoedd rhoddi ychydig o'm hadgofion am dano fel pregethwr. Nid pregethwr yn unig ydoedd ef; ond fel pregethwr yr oeddwn i am son am dano.
Credaf i John Evans Eglwysbach gael derbyniad tywysogaidd gan deulu'r nefoedd ar ei fynediad i'w plith. Ae yr oedd efe yn haeddu rhoddi o honynt dderbyniad felly iddo. Cafodd ei gyfarch gan ei Arglwydd yn y geiriau hynny, "Da was, da, a ffyddlawn, dos i mewn i lawenydd dy Arglwydd." Ni fu gwas mwy ffyddlawn a diwyd nag efe. Ti was yr Arglwydd, gorffwys yn dawel yn dy fedd; ti weithiaist yn galed yn dy ddydd; ti fuost wrthi a'th holl nerth mewn amser ac allan o amser; yr oeddit yn treulio ac yn ymdreulio gyda gwaith dy Feistr. Gorffwys bellach, hyd y bore mawr y buost yn son mor fendigedig am dano, y bore y cei godi o dy fedd yn debyg i dy Arglwydd.
Barry Dock.WALTER DANIEL.