Neidio i'r cynnwys

Tudalen:John Evans, Eglwysbach (Cymru 1897).djvu/3

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eiddo yn eich argyhoeddi ar unwaith ei fod yn rhywun na chwrddech â'i fath bob dydd. Gofynnais i'r hwn oedd yn eistedd yn fy ymyl, Pwy yw hwnna?" Atebodd fi,—Dyna John Evans Eglwysbach."

Yr oeddwn yn meddwl taw efe ydoedd cyn i mi ofyn; ond rhag ofn nad oeddwn yn meddwl yn iawn, gofynnais. Acth trwy rannau dechreuol y gwasanaeth gyda bywiogrwydd a difrifwch. Yr oedd yn gweddio yn ddwys a ffyddiog. Yr oedd yn weddiwr mawr yn ogystal a phregethwr mawr. Y ffaith ei fod yn weddiwr mawr oedd yn cyfrif am ei fod yn bregethwr mawr. Ni fyddai yn gymaint o bregethwr oni bai ei fod y fath weddiwr. Yr oeddech yn teimlo fod yr eneiniad oddiwrth y Sanctaidd hwnnw wedi disgyn yn drwm ar y pregethwr. Yr oedd nefoedd a daear wedi dyfod yn agos at eu gilydd ar ddechreu y cwrdd. Yr oedd pob gair a ddiferai dros wefus y pregethwr yn eich argyhoeddi ei fod yn wr oedd wedi dyfod oddiwrth Dduw, a'i fod yn mynegi geiriau Duw.

Cododd ei destyn mewn llais uchel a chlir, fel y gallai y pellaf yn y capel ei glywed heb wneyd yr ymdrech leiaf i hynny. Nid oedd yn un o'r rhai hynny sydd yn credu taw mawredd yw siarad mewn llais isel fel na fydd hanner y gynulleidfa yn clywed yr hyn a leferir ganddynt. Yr oedd ei destyn yn llyfr y proffwyd Ezeciel, y ddegfed bennod, a'r paragraff olaf, sef gweledigaeth y cerubiaid, a'r olwynion. Prif fater ei bregeth ydoedd taw y byd ysbrydol oedd yn rheoleiddio gweithrediadau y byd naturiol. Yr oedd yn dangos nas gallasech ddeall y byd hwn ond wrth edrych arno yn ei berthynas â'r byd a ddaw. Y peth byw ysbrydol yn yr olwynion oedd yn peri iddynt symud. Fel y byddai y cerubiaid yn gwneyd, felly yr oedd yr olwynion yn gwneyd. Chwalodd y gwahanol ddamcaniaethau o barthed i reoleiddiad y byd yn dipiau man. O leiaf, felly yr oeddem ni yn tybied. Cafodd oedfa dda iawn; yr oedd rhyw ddylanwad distaw, ond dwfn, yn cerdded drwy y cyfarfod. Yr oedd y rhan fwyaf, os nad pawb ar oedd yn bresennol, yn teimlo fel Jacob gynt,—"Nid oes yma onid ty i Dduw, a dyma borth y nefoedd."

Y tro nesaf y clywais of ydoedd yn Siloah, Aberdar, capel yr Anibynwyr. Yr oedd y capel mawr hwnnw yn orlawn o bobl, ag oedd yn llawn awydd i weld a chlywed y gŵr o Eglwysbach. Yr oedd cais neillduol wedi ei anfon at y pregethwr, yn dymuno arno bregothu pregeth ddirwestol. Yr oedd tipyn o fynd ar ddirwest yn Aberdar a'r cylchoedd yr adeg honno. Cydsyniodd y pregethwr a'r cais. Cododd ei destyn yn llyfr y Diarhebion, y xxiii., a'r saith adnod olaf, sef y geiriau hynny, "I bwy y mae gwae, i bwy y mae ochain?" Dyna y bregeth ddirwestol fwyaf ofnadwy a wrandewais erioed. Yr oedd yn darlunio drygau y fasnach feddwol, y tlodi, a'r trueni oedd ynglyn â hi mewn iaith mor gref nes yr oeddech yn teimlo adgasedd yn llanw eich holl natur tuag ati wrth wrando arno. Mae rhoddi desgrifiad cywir o'r dylanwad oedd yn cydfyned a'r bregeth yn beth nis gallaf; cam fyddai treio. Nid wyf yn ameu nad oedd hon yn un o oedfaon mwyaf ei oes. Mae adgofion byw am dani yng nghof llawer hyd y dydd hwn.

Yn brawf fod y llanw wedi codi yn uchel, dywedaf un peth ddigwyddodd,—gyda fod y pregethwr wedi gorffen ei bregeth, y mae yr Hybarch W. Edwards, Heol y Felin, gweinidog parchus gyda'r Anibynwyr, ar ei draed ac yn diolch i Dduw am godi dyn fel John Evans Eglwysbach. Yr oedd Mr. Edwards wedi ei lwyr orchfygu gan ei deimladau, llifai y dagrau yn berlau gloewon dros ei ruddiau wrth son am yr oedfa. Dywedai taw dyma un o'r oedfaon mwyaf nerthol a dylanwadol y bu ynddi erioed. Ac yr oedd. efe wedi bod mewn llawer, canys yr oedd efe y pryd hyn mewn gwth o oedran. Golygfa. swynol dros ben ydoedd gweld yr henafgwr o Heol y Felin a'i wallt modrwyog, a hwnnw yn wyn fel yr eira, yn codi ar ei draed o hono ei hun ar ddiwedd y cwrdd i ddatgan ei lawenydd, a'i ddiolchgarwch, am yr hyn a welodd ac a deimlodd y noson honno.

Clywais ef dro arall yn Siloah, Aberdar. Yr oedd yn pregethu y tro hwn ar y geiriau hynny yn y Thessaloniaid, "Diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn." Oedfa a gwlith y nefoedd wedi disgyn yn drwch arni ydoedd yr oedfa hon hefyd. Yr oedd y pregethwr yn sefyll ar un o'i uchelfannau. Yr oedd yn darlunio bore yr adgyfodiad mewn iaith mor dyner a thlos nes yr oeddech yn barod braidd i ddiolch fod yn rhaid i chwi farw er mwyn cael gweld gogoniant bore mawr y codi, er mwyn cael golwg ar y dyrfa fawr fydd yn codi yn eu gynau gwynion, ac ar eu newydd wedd. Yr oedd swn fel swn dyfroedd lawer i'w glywed yn y cwrdd pan ddywedodd y pregethwr, yn ei ddull hyawdl ef, Sychwch eich dagrau. Diddenwch eich gilydd a'r ymadroddion hyn." Y troion olaf y clywais ef ydoedd yn Barry Dock. Y tro cyntaf y clywais ef yn y lle hwn yr oedd yn pregethu am dri o'r gloch y prydnawn; ac yn darlithio yn yr hwyr ar y Pedwar Enwad yng Nghymru."