enaid; a dyna, mi gredaf, oedd yn cyfrif am yr ynni ofnadwy gyda'r hwn y pregethai yr efengyl bob amser.
Bob tro y clywais ef yn pregethu, yr oedd yn pregethu gyda nerth, ymroddiad, a difrifwch mawr. Yr oedd ei galon fawr yn llosgi yn eirias o'i fewn gan awydd achub pechaduriaid. Clywais ef yn dweyd un tro wrth bregethu ei fod yn byrhau ei einioes yn y llafur a'r pryder o geisio achub ei gydgenedl. Yr oedd yn dioddef yn fawr ar y pryd oddiwrth ddolur y gwddf; trwy ymdrech a phoen yr oedd yn gallu siarad. Yr oedd wedi cael gorchymyn caeth y bore hwnnw gan ei feddyg i beidio myned allan o'i ystafell. Ond nis gallai beidio gan faint oedd ei awydd am bregethu. Fel yr Apostol Paul, yr oedd yn foddlon bod yn bob peth er mwyn ei frodyr, sef ei genedl yn ol y cnawd. Nid gwerthfawr oedd ganddo ei einioes ei hun, os gallai ryw fodd achub rhai o'r Cymry.
Yr oedd achubiaeth ei wrandawyr yn pwyso yn drwm ar ei feddwl. Os bu dyn erioed ar ei oreu yn pregethu yr efengyl, fe fu John Evans Eglwysbach. Dyn o ddifrif ydoedd. Teimli fod angenrhaid wedi ei osod arno i bregethu, ac mai gwae ef oni phregethai. Nid dyn yn pregethu i fyw ydoedd ef, ond dyn yn byw i bregethu; pregethu ydoedd ei fwyd a'i ddiod. Yr oedd yr wythnos olaf y bu byw yn wythnos lawn o bregethu. Pregethodd deirgwaith ddydd Llun, pregethodd ddydd Mawrth, aeth i angladd Deon Vaughan ddydd Mercher, pregethodd ddydd Iau, yr oedd yn ei wely yn glaf ddydd Gwener, cododd fore Sadwrn mewn anhwylder mawr, cychwynnodd ef a Mrs. Evans gyda'r tren un ar ddeg am Lerpwl, lle y disgwylid ef i bregethu deirgwaith drannoeth. Pwy ond dyn a'i lond o awydd angerddol am bregethu fuasai yn gadael Pontypridd o dan yr amgylchiadau y gadawodd efe ef y bore hwnnw? Mynd i Lerpwl i bregethu oedd ef yn feddwl, ond mynd yno i farw a wnaeth. Ychydig wedi naw o'r gloch nos Sadwrn, Duw a'i cymerodd ef ato ei hun i ogoniant.
Yn awr mi roddaf ychydig o'm hadgofion am dano fel pregethwr.
Y tro cyntaf y gwelais ac y clywais ef yn pregethu ydoedd yn Ferndale, yng Nghwm Rhondda Fach, a hynny ar nos Sadwrn. Mae llawer blwyddyn bellach oddi ar hynny. Aeth rhyw hauner dwsin o honom yn groes i'r mynydd sydd yn gorwedd rhwng Cwmaman a Ferndale, er mwyn cael golwg ar a chlywed y gŵr rhyfedd o Eglwysbach yn pregethu, y gŵr yr oedd cymaint o son am dano.
Yr wyf yn cofio yn dda ei bod yn noson oleu leuad hyfryd; yr oedd brenhines y nos yn edrych yn ogoneddus, ei phrydferthwch yn tynnu eich llygaid i syllu arni heb yn wybod i chwi. Yr oedd trwch o rew yn garped grisialaidd dros wyneb y ddaear; fel yr oedd y nefoedd uwchben a'r ddaear of dan draed yn edrych yn brydferth a swynol. Trwy ofal ac ymdrech galed y gallasom gadw ein hunain yn ddigwymp. Yr oeddem yn y capel ychydig o funudau cyn pryd dechreu,—(nid dyna hanes pawb ddaeth i'r cwrdd y noson honno)—a mawr iawn oedd ein disgwyliad am weld y pregethwr yn gwneyd ei ymddanghosiad. Nid oeddym wedi clywed gair gan neb sut un ydoedd o ran ei ddyn oddi allan; pa un ai glân ai salw, pa un ai goleu ai tywyll, pa un ai tal ai byr, pa un ai tew ai teneu. Ond yr oeddem wedi creu dyn yn ein dychymyg, fel y bydd dynion yn gwneyd mewn amgylchiadau o'r fath. Ond anaml, os byth, y bydd yna un tebygolrwydd rhwng y dyn a greir gennym a'r dyn gwirioneddol ei hun. Pan ddaeth yr awr apwyntiedig i ben,—awr ryfedd yn ein hanes ni ydoedd yr awr honno, awr a'i llond o ddisgwyliad cywreingar, pan ddaeth yr awr apwyntiedig i ben, wele ddyn cydmarol fyr, ond o led a thrwch mwy na'r cyffredin, o ysgogiad ysgafn a bywiog, gwyneb glan, siriol, ac agored, a llygaid a'u llond o graffder a threiddgarwch, yn dod i fewn. A chyda fod ei ben yn dod i'r golwg, y mae llygaid pawb yn syllu arno. Y mae yn esgyn grisiau y pulpud yn araf a gwylaidd, fel un yn teimlo ei fod yn dringo i ymyl Duw; plyga ar ei liniau am funud neu ddwy, yna cwyd ar ei draed, ymeifl yn y llyfr hymnau, a rhydd emyn allan i ganu. Y mae pob ysgogiad o'i