Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/115

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

XXV.—Y "COLONIAL GENTLEMAN."

YN gynnar iawn fore trannoeth curodd Shams wrth ddrws ystafell wely Lewsyn ac wedi cael agoriad eisteddodd ar ochr gwely ei gyfaill ychydig yn gyffrous.

"Wel, Shams, be sy'n dy flino di, iti gwnnu mor gynnar a hyn? 'Dyw dy goach di ddim yn 'madal' cyn deg!"

Trafferth meddwl, Lewsyn!"

"Beth yw hynny?"

"Dyma fe ! Ffordd caf i 'weyd wrth 'y mishter yn Gloucester fod bachan y Saltmead wedi dianc?

Fe ddaw prif gwnstabl y lle a phawb arall i wybod 'i fod e'n rhydd, a fi gaiff y bai, wrth gwrs. Ac heblaw hynny. 'rwy'n siwr fod y scempyn erbyn hyn yn 'werthin yn iawn am 'n pennau ni'n dau!"

"Wel, Shams, dyma'r tro cynta' erioed i fi dy weld ti yn ofni ar ol g'neud. Twt, bachan, cer' yn ol i gysgu a galw fi am wyth, ac fe ddota i'r cwbl mor blaen i ti'r pryd hynny a'r trwyn sy' ar dy wyneb!"

Aeth Shams allan o'r ystafell i orwedd ar ei wely ei hun tan wyth, ond nid i gysgu, canys ni chafodd amrentyn o hûn yn fwy na chyn hynny.

Pan feddyliodd Lewsyn ymhellach am a ddywedodd Shams, gwelodd fod ynddo anhawster i feddwl unplyg fel eiddo ei gyfaill, ac felly dyfalodd am gynllun i'w helpu, a phan ddaeth yn wyth o'r gloch yr oedd yn barod.

"Wel, yr hen wyneb hir, dere mewn!" ebe fe wrtho pan ddaeth i'w olwg. "Gwrando! Dwêd ti beth fynnot ti am dano i yn y scuffle yn Chepstow, ond cofia.