Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/21

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Ar y daith adref addefodd Mari wrthi ei hun ei bod wedi gwneuthur cam yn ei meddwl â Lewsyn, a'i fod yn well cyfaill nag oedd hi erioed wedi synied. Yn wir, credai pe deuai tarw neu unrhyw anghenfil arall i beryglu ei bywyd rywbryd, y gwnai efe ymladd hyd farw cyn ildio. Ac onid oedd yna darw cas ym Mryncul? A gwarchod pawb annwyl! dacw fe wrth glwyd y coetcae, ac yn siwr o fod yn barod i ymosod arnynt y foment honno

Ni arhosodd Mari i weled pa ochr i'r glwyd yr oedd, nac i weled a oedd yn bygwth ymosod ai peidio, ond rhedodd nerth ei thraed i gyfeiriad Pantgarw. Pan edrychodd yn ol, hi a welodd y gelyn yn cilio oddiwith y glwyd, a Lewsyn yn ei guro â'r polyn i'w gynorthwyo i fynd.

Bore drannoeth mawr oedd siarad y merched am Lewsyn ac am y mwynhad a gawsant yn ei gwmni, ond fel oedd yn rhyfedd, Mari oedd hyotlaf yn awr, a mynnai greu gwrhydri i'w chydymaith allan o ymddangosiad y tarw, na pherthynai iddo o gwbl, ac na hawliai efe mewn un modd.

Bu llawer o gynllunio rhwng y cyfoedion am y dyddiau braf oedd i ddod rhag llaw—am wynfyd y cynhaeaf gwair yng nghwmni Beti ar feysydd Hendrebolon, am ymweliadau â rhyfeddodau y Porth Mawr yn ymyl ei chartref, ac am gasglu torreth y mwyar duon a'r cnau yr oedd Ystradfellte mor enwog am danynt.

Ond yr oedd dyddiau ysgol Beti ar ben. Daeth pla y frech wen dros y wlad yr haf hwnnw, a sibrydwyd yng Ngwern Pawl un bore Llun bod rhieni'r gyfeilles o Hendrebolon ill dau "yn drwm" ynddi. Cadwyd Beti o'r ysgol, nid o un syniad y buasai ei phresenoldeb yno yn ffynhonnell perigl i'r lleill, ond yn unig am na ellid ei hepgor o'r fferm ar y pryd.