Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/62

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Wedi bod dridiau ar y cwpwl heb ymborth o un math, yr oedd Lewsyn wedi hanner syfrdanu, ac wrth symud yn ol a blaen yn ei hurtni, cwympodd i'r llawr, rhyw ddeuddeg troedfedd o ddyfnder. Yna, heb wybod yn iawn beth a wnai, cerddodd rhag ei flaen gan daro ar y tŷ byw, nid amgen nag i ddannedd y llewod eu hunain. Rhwymwyd ef â rheffynnau, a chan fod yr ustusiaid wedi lled awgrymu i'r swyddogion mai araf oeddynt wrth eu dyledswydd, penderfynwyd ei ddwyn i Ferthyr y noson honno.

Gosododd Gruffydd y gaseg yn y cerbyd ar fyrder, a phan oedd popeth yn barod, cariwyd Lewsyn iddo, oblegid yr oedd efe'n rhy wan i gerdded ei hun, ac aeth y tri brawd gyda lanternau a ffyn i ddangos y ffordd i'r swyddogion hyd yr heol fawr uwch y Porth Ogof a'u harweiniai i Benderyn, Hirwaun a Merthyr. Gadawyd Beti wrthi ei hun, a hithau, wedi pwyso o honi ei phen ar y bwrdd, a wylodd fel y gwna y rhai y mae pob gobaith wedi eu gadael.

Collodd bob cyfrif ar amser, ond pan, rywbryd tua chanol nos y clywodd ei brodyr yn dychwelyd gyda chrechwen fawr, rhedodd i fyny'r grisiau, ac ymguddiodd yn ei gwely heb ddiosg yr un dilledyn. Cyhuddai ei hun o fod heb wneuthur yr oll a fedrai i achub Lewsyn, a chredai y byddai ei waed ef ar ei dwylaw am byth.