Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/64

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

'matal â Phenderyn, a mae rhai'n dweyd 'i fod ei hunan mewn rhyw helynt neu 'i gilydd."

"Mae arna i ofan nag oes llawer o obath, ond fe ddweta wrthoch chi beth allwn ni wneud,-gadewch inni fynd at y Sgweier a gofyn iddo fe'n helpu. Mae fe yn un o'r gwŷr mawr mwya', chi wyddoch, ac fe all e' feddwl am rwbeth na ddaw i'n meddwl ni o gwbwl.

Dotwch y ceffyl yn y Lamb ac fe awn ato 'nawr. 'Does dim awr er pan weles i o 'n mynd lan y drive i'r Plas." Gosodwyd yr anifail yn ddiogel yn ystabl gyffredin y gwesty, ac aeth y ddwy i Blas Bodwigiad i eiriol ar ran un fu unwaith yn bennaf ffefryn yno.

"Wel, 'm merched i, beth yw eich neges ataf fi? Mari, pwy yw'r ferch ddiarth yma?"

"'Dyw hi ddim yn ddiarth iawn, syr. Beti Williams o Hendrebolon yw hi, ac y mae hi a finna wedi galw i gael gweld a oes dim posib i chi wneud rhwbeth dros Lewsyn,—Lewis Lewis, syr, yn 'i helynt. 'Roedd e' a ninna yn yr ysgol yng Ngwern Pawl yr un amser, ac yn wir, syr, wyddon ni ddim beth i wneud i geisio 'i helpu fe, ond fe garsan wneud 'n gore."

"Dewch i mewn, 'ch dwy," ebe fe yn garedig. "Gwenllian!" ebe fe drachefn wrth y forwyn, wedi iddynt eistedd, " Dewch a'r botel win yma!" Yna arllwysodd iddynt eill dwy wydraid bychan ac a'i hestynodd iddynt mewn modd mor barchus a phe baent yn foneddigesau pennaf y wlad.

"Da iawn, ferched," ebe fe ymhellach, "yr wyf yn caru plwc a phenderfyniad ble bynnag y gwela i e'. 'Nawr, chi yw y cynta' yn y lle sy wedi mentro wilia â fi yn ei gylch. Chi wyddoch iddo fatal oddiyma tan dipyn o gwmwl, ond cwmwl neu beidio, ferched, yr oedd yn well dyn na'r oll o'r llwfriaid sy 'nawr yn gatal iddo fynd i'r crocbren o'u rhan nhw. Fe fydd yn dda gyda chi