Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/65

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

glywed mod i ishws wedi cyflogi y barrister gore yn y wlad idd 'i amddiffyn e', ac ni chaiff dim sefyll rhyngto a rhyddid os gall arian Bodwigiad wneud hynny. Gadewch i fi weld, yr y'ch chi, Miss Williams, yn chwaer i Gruffydd Hendrebolon. Fe fydd e' yn un o'r tystion, bid siwr. 'Nawr, beth wetwch chi 'ch dwy am ddod i Gaerdydd i'm helpu i amser y treial? Dwedwch wrth 'ch brawd. Miss Williams, mod i 'n dymuno arno 'ch gatal i ddod, oblegid rhwng popeth fe fydd yn rhaid cael rhai i edrych ar ol petha yn y tŷ gymres i yng Nghaerdydd dros amser y treial, a chi ddowch chi, Mari, gyda hi, 'rwy'n siwr. Yr wy'n lled ffyddiog, rywffordd, y daw Lewis yn rhydd ac ni fydd well ganddo weld neb yno na'r rhai a'u cofiws pan oedd e' dan y dŵr. Nos da i chi ferched, caf glywed o' wrthych yr wythnos nesa' p'un ai ddewch ne beidio. Da gen i fod ysgol Gwern Pawl yn troi maes ferched fel chi."

Aeth y cyfeillesau yn ol drwy y drive mor galonnog a phe bae Lewsyn eisioes yn rhydd.

Diwrnod gwyn yw hwnnw yn hanes unrhyw un y ca ynddo gydnabyddiaeth llwyr gan ei well.

Aeth Mari i fyny i'r Lamb gyda Beti at y ceffyl, ac wedi ei helpu i'r cyfrwy, a mynnu addewid y deuai i'w gweled prynhawn y Sul ar ol hynny, ymadawodd â hi am y tro mewn mawr hyder y deuai popeth yn iawn yn y diwedd.

Ni sylweddolai y genethod ar y pryd dywylled oedd y cwmwl uwchben Lewsyn fel blaenor y terfysg a thywalltwr y gwaed. Yr oedd canmoliaeth a chefnogaeth anisgwyliadwy y Sgweier wedi codi eu calonnau

c'uwch yn awr ag oeddent o isel cyn hynny. Yr oedd oriau dygn eto yn eu haros na freuddwydient am danynt, a da iddynt ar y pryd oedd bod mewn anwybodaeth ohonynt.