Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/73

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

"Rhaid i fi ddarllen am yr Ifor Bach yna eto ta' beth," ebe Mari. "Os aeth e' i mewn dros y gwelydd yna (a mae'r Sgweier yn gweyd iddo wneud hynny er fod sowldiwrs ar 'u penna' nhw yn treio i stopo fe), wel! rhaid mai dyn bach taer oedd e'! Glywsoch chi'r Sgweier yn wilia am i blwc e'? Bydd y stori 'n werth i darllen."

Yr oedd Mari erbyn hyn wedi dyfod yn edmygydd mawr o'r Sgweier, a'r hyn ddywedai efe osodai y safon i bopeth. Yr oedd "plwc" a "giêm" yn eiriau benthyg oddiwrtho, ac ym myd arwyr a gwroniaid y trigai ei meddwl fyth oddiar ddydd yr ymweliad hwnnw a'r Plâs.

Hyhi oedd yn cynnal yr ymddiddan drwy y prynhawn, a gwrandawai Gruff, oedd yn naturiol yn un o'r rhai di-ddweyd, gyda syndod ar ei harabedd a'i dawn parod.

Gofalwyd bod yn ol yn y tŷ yn gywir am saith pan y cyfranogwyd o bryd bwyd arall. Cyn ymadael dros nos rhoddodd y Sgweier y drefn iddynt am drannoeth. "Brecwast am wyth," ebe fe, "ac wedyn mewn pryd i'r Hall. Chi fyddwch chi, Gruff, yn siwr o'ch lle am y'ch bod yn witness, ac fe ddaw y merched gyda fi. 'Rwy'n credu dim ond i fi weld Cwnstabl neilltuol y bydd lle i ninnau hefyd. A choffwch," ebe fe ymhellach, bydd rhaid inni fynd a thipyn o fwyd gyda ni, achos ddown ni ddim mâ's nes bo popeth ar ben. A pheidiwch synnu at ddim a welwch neu a glywch, a chadwch yn agos i fi."

Chysgodd Beti ddim eiliad y noson honno gan mor ddieithr oedd y cwbl iddi. Ac heblaw y teimlad o ddieithrwch, llethid hi gan gyffro a phryder meddwl.

Cododd a gwisgodd cyn chwech, ac wedi dihuno Mari, oedd yn cysgu fel Mynydd y Glôg, aethant i lawr eill dwy erbyn saith, a chymerasant dro drwy