Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/80

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o deimlad serch at Hendrebolon, ac o ddiolch i Gruff a ddaeth drosto, ac yr oedd yn gryf eto y funud nesaf. Credai Beti yn awr na ellid ei gondemnio hyd nes i gyfreithiwr y Goron bwysleisio mai efe oedd y Ringleader, ac mai efe a dywalltodd waed gyntaf. A gwaethygu 'roedd yr olwg o hyn i'r diwedd pryd y cafodd y Rheithwyr y cyhuddedig yn Euog!

Pan ofynwyd i Lewsyn yn ol ffurfiau profion yn gyffredin i ddangos rheswm paham na ddylid ei ddedfrydu i farwolaeth. dywedodd "I have nothing to say, my lord, the witnesses have spoken the truth. Only that I was starving, my lord, and that all my friends were the same."

Yr oedd Beti a Mari erbyn hyn yn foddfa o ddagrau, ac yn plygu eu pennau i guddio eu hwynebau, ond clywsant eiriau y Barnwr yn eglur, a gwyddent fod pob gobaith ar ben. Siaradai yn dêg ac yn deimladwy neilltuol. Amlwg oedd ei fod yn tosturio yn fawr wrth Lewsyn. Ond yr un oedd y diwedd—"Y Cap Du," a " Dedfryd o Farwolaeth."

Gwasgarodd y dorf ar hyn ond ni syflodd y merched hyd nes i'r Sgweier ddyfod atynt, a gosod ei law yn dyner ar ysgwydd Beti a dweyd,—"Dewch 'y merch i!" Cododd ar hyn (a gwnaeth Mari yr un modd), a chan bwyso ar fraich yr henafgwr cyrhaeddasant eu llety; ac yno, Ysgweier Penderyn—a fernid gan rai y caletaf o bawb dynion—a wylodd gyda'r rhai oedd yn wylo, ac a anghofiodd ei dor-calon ei hun wrth weini ar eraill.

Aeth y merched ymhen amser i'w hystafell eu hunain, a chyn y daethont i lawr y grisiau drachefn yr oedd yr hen ŵr wedi myned allan gan adael gair gyda Gruffydd am iddynt beidio ei ddisgwyl yn ol tan nos.

"Pa fodd y 'drychai ef, Gruffydd?" ebe Mari.