Tudalen:Lewsyn yr Heliwr 01.pdf/97

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

mis, a'r byd mawr tu allan wedi ei gloi oddiwrthynt am y cyfnod hwnnw. Felly, yr oedd llawer o blesor y daith yn dibynnu arnynt hwy ou hunain.

Er mwyn helpu yr ysbryd o gymdeithasu a'i gilydd, cyhoeddodd y capten y cynhelid cyngerdd yn y prif gaban y noson ddilynol, i'r hon y gwahoddid pawb. Ar yr un pryd gwahoddid pob dawn "cerdd ac araith" i fod yn barod for the entertainment of the ship's company.

Daeth yr awr, a llanwyd y caban, ond hytrach yn hwyrfrydig oedd y doniau "cerdd ac araith" i ddod i'r amlwg. Ond o'r diwedd canodd Ellmyn am afonydd ei wlad, a Ffrancwr am winllannoedd ei wlad yntau. Wedi hynny cymerodd Italiad y llwyfan, a dilynwyd ef gan Yswis.

"The Homeland is behind to-night," ebe'r capten o'r gadair. "Is there no Britisher that will come forward?" Ar y foment cododd Lewsyn a dywedodd,-" I am a Britisher, sir, and will do my best, although my song is not an English one."

Ar hyn dechreuodd,—