Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/13

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

SYLWADAU ARWEINIOL

DIAU fod tuedd gynhenid yn perthyn i'r natur ddynol i anfon yn mlaen ei meddyliau, geiriau, a gweithredoedd, ac nid yw y naill genhedlaeth yn foddlawn heb drosglwyddo ei hanes i'r genhedlaeth a ganlyn. Mae hyn yn beth mor naturiol ag ydyw i'r dwfr redeg i'r môr. Nid yw awydd un genhedlaeth i roddi yn ddim mwy nag awydd cenhedlaeth arall i dderbyn. Fel y mae y naill yn dyheu am roddi ei hanes, felly mae y llall yn dyheu yr un mor gryf am dderbyn yr hanes: un yn rhoddi, a'r llall yn derbyn, ac ymddengys i ni fod yr elfenau hyn yn llawn mor gryfion yn y naill a'r llall, a cheir yr un berthynas rhyngddynt ag sydd rhwng anghen â chyflenwad. Mae yn anhawdd egluro cryfder y duedd hon os nad ydyw yn blanedig yn y natur ddynol. Efallai mai oddiar hyn y dechreuwyd cerfio ar greigiau celyd Assyria, yr ysgrifenwyd ar briddfeini Babilon, ac y torwyd arwydd luniau ar golofnau, dorau, a muriau y temlau ardderchog a adeiledid yn yr Aipht. Gall hefyd mai oddiar yr un duedd y cododd dull ac arferiad yr hen Gymry i ysgrifenu ar goed, y rhai a elwid yn Coelbren y Beirdd. Dengys ffeithiau fod y duedd hon yn gref iawn mewn dynion: mor awyddus i gario eu hanes i lawr i'r dilynwyr—i'r cenhedlaethau dyfodol-nes penderfynu defnyddio hyd yn