Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/136

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. D. W. Davies, Caernarfon, ond, wedi hyny, yn Ionawr, 1890, symudwyd ef i gael ei argraphu i swyddfa Mr. W. Gwenlyn Evans, cyhoeddwr, Caernarfon. Gwelwn ei fod, yn Ionawr, 1892, wedi ei helaethu mewn maintioli, nes y gellir yn deg ei ystyried yn un o'r cylchgronau helaethaf sydd genym. Daw allan yn charterol, a'i bris ydyw swllt. Ei arwyddair, yn ol y wyneb—ddalen, ydyw: "Fy Iaith, fy Ngwlad, fy Nghenedl," ac yn sicr rhaid cydnabod ei fod, yn ei gynnwys, yn ateb i yspryd ei arwyddair, ac ystyrir ef yn gylchgrawn gwir genedlaethol. Ceir ynddo erthyglau parhaus ar faterion sydd yn dal cysylltiad agos â Cymru, megis "Diwylliant Llenyddol yn Nghymru," "Dygiad yr Efengyl i Brydain," "Perglon Enwadaeth Grefyddol," "Prifysgol i Gymru," "Y Delyn a'r Eisteddfod," "Cenedlgarwch y Cymry," "Cymraeg yr Oes hon," "Yr Eisteddfod a Safon Beirniadaeth," "Llythyraeth y Gymraeg," &c. Ceir ysgrifau yn mhob rhifyn ohono, oddiwrth rai o'r prif ysgrifenwyr a feddwn, a da genym ddeall ei fod yn cael cefnogaeth wresog y wlad. Un o neillduolion y cylchgrawn hwn ydyw y rhoddir holl ofod bron pob rhifyn ohono i'r elfen Gymreig—eithriad hollol ydyw cael neb na dim o'r tuallan i ddyddordeb cenedl y Cymry. Daw allan hefyd, bob dydd cyntaf o Mawrth, argraphiad neillduol, yr hwn a elwir Ceninen Gwyl Dewi, a rhoddir yr holl le ynddo i ysgrifau ar Gymry enwog ymadawedig, a diau fod hon yn elfen dda—cadw yn fyw goffadwriaeth cymwynaswyr y genedl rhag myned yn anghof.

Trysorfa yr Adroddwr, 1888.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1888, gan Mr. D. L. Jones (Cynalaw), Briton Ferry, ac efe hefyd sydd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Daw allan yn chwarterol,