Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/137

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

a'i bris ydyw tair ceiniog. Cyhoeddir ef dan "nawdd prif lenorion, beirdd, a cherddorion y genedl." Ceir ynddo ddadleuon, adroddiadau, a cherddoriaeth, at wasanaeth Cyfarfodydd Llenyddol ac Eisteddfodol. Rhoddir cefnogaeth dda iddo, a hyderwn y bydd iddo yntau barhau i'w theilyngu.

3.—Y CYLCHGRAWN I'R CHWIORYDD.

Y Gymraes, 1850.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1850, dan nawdd Gwenynen Gwent, gan y Parch. Evan Jones (Ieuan Gwynedd), ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac argraphwyd ef gan y Meistri Rees a Williams, Llanelli. Cylchgrawn misol ydoedd, at wasanseth merched Cymru. Ei bris ydoedd dwy geiniog. Cynnwysai erthyglau ar faterion fel y rhai canlynol:— "Y Fam," "Gwersi y Fam," "Yr Aelwyd," "Darluniau Teuluaidd," "Pa beth a ddylai gwraig fod," "Gwerth Addysg Fenywaidd," "Ieuo Anghydmarus," "Anniweirdeb Cymru," "Coginiaeth," &c. Dyma yr ymgais gyntaf erioed at gael cyhoeddiad pwrpasol i'r rhyw fenywaidd yn Nghymru. Yn yr ymdeimlad o hyn, dywedodd Ieuan Gwynedd unwaith yn un o'r ysgrifau:—Yr wyf yn disgwyl y gwna merched Cymru fi yn sant am eu hamddiffyn. Ni ryfeddem na chedwir Gwyl Ifan ganddynt mewn oesoedd dyfodol mewn cof am danaf fi." Ond, er holl ymdrechion clodwiw ac hunan—aberthol Ieuan Gwynedd, ac er mai hwn oedd yr unig gylchgrawn i ferched Cymru ar y pryd, eto, gwir ddrwg genym orfod dyweyd, na roddwyd cefnogaeth deilwng iddo, ac, mewn ystyr arianol, bu yn fethiant; ac fel y llwybr anrhydeddusaf i roddi y Gymraes i fyny, priodwyd hi a'r Tywysydd yn Llanelli, ac, yn mis Ionawr, 1852, ymddangosodd y ddau gyhoeddiad yn un misolyn—pris ceiniog—dan yr enw newydd Y Tywysydd a'r Gymraes, dan olygiaeth Ieuan