Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/140

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Yr Athraw Cerddorol, 1854.—Cychwynwyd y cyhoedd— iad hwn yn y flwyddyn 1854, gan y Parch. John Mills, Llanidloes, ac efe hefyd oedd yn ei olygu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Un nodwedd arbenig i'r cyhoeddiad hwn ydoedd y sylw a roddid ganddo i ganiadaeth gysegredig, a rhoddid gwersi ynddo fel cynnorthwy tuagat wella y canu cynnulleidfaol. Ni ddaeth allan ohono ond ychydig rifynau yn unig.

Y Cerddor Cymreig, 1861.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn dan nawdd prif gerddorion, corau, ac undebau cerddorol y Cymry, yn Mawrth 1861, a golygid of gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt). Ei bris ydoedd dwy geiniog, a deuai allan yn fisol, ac yn yr Hen Nodiant y cyhoeddid ef. Argrephid ef, o'r cychwyniad hyd Rhagfyr, 1864, gan Mr. I. Clarke, Rhuthyn, ac yna, yn Ionawr, 1865, symudwyd ef i gael ei argraphu yn swyddfa Meistri Hughes a'i Fab, Gwrecsam, ac yno y parhaodd i gael ei argraphu, dan olygiaeth Ieuan Gwyllt, hyd y flwyddyn 1873, pryd y rhoddwyd ef i fyny. Greal y Corau, 1861.—Cychwynwyd y cyhoeddiad hwn yn y flwyddyn 1861, dan olygiaeth y Parch. E. Stephen (Tanymarian), Ab Alaw, Llew Llwyfo, ac eraill, ac argrephid ef gan Mr. T. Gee, Dinbych. Yn yr Hen Nodiant y cyhoeddid ef. Dwy geiniog ydoedd ei bris, a deuai allan yn fisol. Ni pharhaodd i ddyfod allan ond am ychydig dros ddwy flynedd.

Cerddor y Sulfa, 1869, 1881.—Daeth y cylchgrawn hwn allan yn y flwyddyn 1869, dan olygiaeth y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), ac argrephid ef gan Meistri. Hughes a'i Fab, Gwrecsam. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd ceiniog—a—dimai. Yn y Tonie Solffa, fel y ynoda ei enw, y cyhoeddid ef. Rhoddwyd ef i fyny yn y flwyddyn 1874. Cychwynwyd cylchgrawn cyffelyb, ar yr un enw, yn yr un nodiant, am yr un pris, ac i'r