Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Mr. James Rees, Caernarfon. Cychwynwyd ef, yn benaf, er mwyn yr amaethwyr i'w dysgu yn ngwahanol agweddau amaethyddiaeth. Dros ychydig amser y parhaodd.

Y Golygydd, neu Ysgubell Cymru, 1846.—Daeth allan y cyhoeddiad hwn yn Ionawr, 1846, a chychwynwyd ef gan y Parch. John Jones, Rhydybont, ac efe hefyd oedd yn ei olygu ac yn ei argraphu. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ei arwydd-air, yn ol y wyneb-ddalen, ydoedd: "A wnaed ddrwg, ymogeled." Cynnwysai "athrawiaethau, traethodau, adolygiadau, hanesion, amrywiaethau," &c. Ysgrifenid iddo ar destynau fel y rhai canlynol:"Dysgeidiaeth yn Nghymru," "Breuddwydion," "Diderfyn raniadau Anian," "Cymhwysder y Greadigaeth." "Twr Dafydd," "Y Synagog a'r Eglwys," "Adenydd Amser," &c. Bu raid ei roddi i fyny oddeutu diwedd ei flwyddyn gyntaf. Ymdrechwyd ei ail-gychwyn yn y flwyddyn 1850, gan yr un person, ond yn ofer.

Yr Amaethwr, 1851.—Cychwynwyd y cylchgrawn hwn yn y flwyddyn 1851, gan Mr. William Owen, Caerdydd, ac efe hefyd oedd yn ei olygu, ac yn ei gyhoeddi. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Daeth allan, yn benaf, er mwyn gwasanaethu yr amaethwyr, ond rhoddwyd ef i fyny cyn hir.

Y Gwerinwr, 1855.-Daeth allan y rhifyn cyntaf o'r cyhoeddiad hwn yn Ebrill, 1855, a golygid ef gan y diweddar Barch. J. Thomas, D.D., Lerpwl, ac argrephid of gan Mr. J. Lloyd, cyhoeddwr, Lerpwl. Deuai allan yn fisol, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Galwai ei hunan, yn ol y wyneb-ddalen, yn Athraw Misol, er dyrchafiad cymdeithasol, meddyliol, a moesol, y dosparth gweithiol,