Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/198

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ddadl hon ar yr Iaith Gymraeg, yn ein cylchgronau, yn enwedig os caiff ei chario yn mlaen mewn yspryd cariad a doethineb, yn sicr o droi yn fantais lenyddol i'r wlad. Dywedir fod ysgrif Brutus yn Seren Gomer (yn ei dyddiau cyntaf) ar "Tlodi yr Iaith Gymraeg wedi tynu sylw mawr ar y pryd hwnw, a pheri helynt. Mae yn ddiddadl fod ysgrifau tebyg i "Yr Eisteddfod a Safon Beirniadaeth (Glanffrwd), "Philistiaeth Eisteddfodol" (Gwyndodig), "Eisteddfod Genedlaethol Pen y Fan" (Ceiriog). "Beth am yr Eisteddfod" (Mr. Edward Foulkes), "Safon Beirniadaeth" (Cynfaen), &c., wedi bod yn llesol iawn tuagat buro a dyrchafu ein sefydliad cenedlaethol, a thrwy hyny yn tueddu at fod yn fantais lenyddol i'r genedl. Beth am yr ysgrifau ar "Goronwy Owain" (G. Ed- wards), "Eben Fardd" (Hwfa Môn), a'r rhai a geir yn barhaus ar enwogion llenyddol ymadawedig? Gwnaeth ysgrifau beirniadol "Iwan" yn y Seren Gomer foreuol, ar "Gywydd y Farn," gan Goronwy Owain, yn enwedig ar y llinellau

"Syrth nifer y sêr, arw son
Drwy'r wagwybr draw i'r eigion,"

a bod y gair "draw" yn ddi-anghenrhaid, &c.,—gwnaeth yr ysgrifau hyn gynhwrf ar y pryd. Pwy sydd heb wybod am ysgrifau galluog a deifiol "Yr Hen Wyliedydd" (Parch. W. Davies, D.D., Bangor), yn Yr Eurgrawn? Darfu i'w erthyglau beirniadol ar Caledfryn, fel beirniad awdlau, dynu sylw cyffredinol y beirdd a'r llenorion ar y pryd, a theimlid fod "Yr Hen Wyliedydd," drwy ei lythyrau ar hyn, wedi cyflawni gwasanaeth i'w gyd-genedl. Wrth son am ddylanwad llenyddol y cylchgronau, dylid rhoddi pwys ar yr hyn a wnaeth y cyhoeddiad a elwid Yr Eisteddfod. Darfu