Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/215

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD V.

HANES NEWYDDIADURON A CHYLCHGRONAU CYMREIG AMERICA AC AWSTRALIA.

CREDWN nas gellir bod yn hollol ffyddlawn i eiriad ac ystyr mater y llyfr hwn heb gymeryd i mewn i'r cyfrif lenyddiaeth newyddiadurol a chyfnodol ein cyd-genedl anwyl yn y Gorllewin pell. Prin y mae yn angenrheidiol i ni ddatgan ein bod dan anfantais i draethu llawer ar hyn mae pellder y naill wlad oddiwrth y llall, a'r anfanteision sydd yn canlyn hyny, yn rheswm digonol dros beidio disgwyl ymdrafodaeth gyflawn a manwl ar y ganghen hon: a'r cwbl ydym am amcanu ato ydyw rhoddi cynnorthwy i ffurfio syniad am sefyllfa y rhan hon o'r wasg Gymreig yn mhlith Cymry yr America; a diau y bydd codi ychydig ar y llen—rhoddi cip-drem frysiog ac anghyflawn—er i hyny fod yn ddigon anmherffaith, yn fwy dyddorol a derbyniol gan y darllenwyr yn hytrach na phe bussid yn gadael heibio y rhan hon heb sylw arni o gwbl. Credwn mai mantais i Gymry Cymru a fyddai gwneyd en goreu—yn mhob modd posibl—i feithrin undeb, cariad, a chydymdeimlad â'r Cymry sydd yn yr America. Rhaid i ni ddatgan ein crediniaeth gref nad yw y cysylltiad rhyngom fel y dylai fod, nac hyd yn nod fel y gallasai fod: nid anhawdd, drwy drefniadau doeth, a fyddai ei wneyd yn llawer iawn agosach a thynach, a di-os genym y byddai i fanteision helaeth—darddui'r ddwy ochr—mewn canlyniad. Onid ydyw hyn yn wir