Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dra lluosog yn ein gwlad, ac yn enwedig felly yn y Deheudir. Teg ydyw dyweyd fod Y Gwron Cymreig, mewn blynyddoedd ar ol hyny, wedi ei ail-gychwyn, fel newyddiadur wythnosol, gan Mr. J. T. Jones, ei gyhoeddwr blaenorol, ar ol iddo symud i fyw i Aberdâr, à sicrhawyd gwasanaeth Caledfryn fel ei olygydd, ond troes yr holl ymdrechion hyn yn fethiant, a rhoddwyd ef i fyny yn fuan.

Y Protestant, 1839.—Cychwynwyd ac argrephid y newyddiadur hwn gan y Meistri Hugh ac Owen Jones, Wyddgrug, a golygid ef gan nifer o weinidogion yr Eglwys Sefydledig, megis y Parch. R. Richards, Caerwys, &c. Deuai allan unwaith bob pymthegnos, a'i bris ydoedd tair ceiniog. Symudwyd Y Protestant, cyn hir, i gael ei argraphu gan Mr. R. Saunderson, Bala, a bernir mai y Parch. G. Edwards (Gutyn Padarn), Llangadfan Rectory, Trallwm, yn benaf ydoedd yn ei olygu y pryd hwnw. Buasid yn tybio fod y newyddiadur hwn, yn fwyaf neillduol, dan nawdd Eglwysig, ac, efallai, yn cael ei gyhoeddi er mwyn deiliaid yr Eglwys Sefydledig yn Nghymru. Ond credir iddo gael ei roddi i fyny oddeu tu y flwyddyn 1843.

Cylchgrawn Rhyddid, 1839.—Cychwynwyd hwn yn y flwyddyn 1839, a golygid ef gan Mr. Walter Griffiths, Bethesda, Arfon, yr hwn, ar yr un adeg, a ddewiswyd i ddarlithio, ar ran Cynghrair Deddfau yr Ŷd, yn Nghymru. Argrephid ef yn Nghaernarfon Amcan mawr ei fynediad allan ydoedd i amddiffyn egwyddorion Masnach Rydd, a chyhoeddid ef dan nawdd y Cynghrair a enwyd. Er y gelwid ef yn gylchgrawn, eto fel newyddiadur yr edrychid arno, a deuai allan yn bymtheg nosol. Ymddengys yr arferai Caledfryn ysgrifenu llawer iddo, ac er yr ystyrid ef yn newyddiadur lled alluog, eto ber iawn a fu ei oes.