Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/39

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyrhaedd dros i wyth mil. Ymneillduodd Mr. Evan Jones oddiwrtho yn haf y flwyddyn 1859, ond parhaodd y newyddiadur i redeg am beth amser wedi hyny.—Dylid hysbysu fod newyddiadur arall o'r enw Llais y Wlad yn cael ei gyhoeddi yn yr un swyddfa, ac oddeutu yr un adeg.

Y Gweithiwr, 1858.—Newyddiadur wythnosol ydoedd hwn, a gychwynwyd ac a gyhooddid gan Mr. Josiah Thomas Jones, Aberdâr, ac efe hefyd ydoedd yn ei olygu, ac yn ei argraphu. Ychydig a fu nifer ei ddyddiau.

Y Brython, 1858.—Cychwynwyd hwn gan Mr. Robert Isaac Jones (Alltud Eifion), Tremadog, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Tachwedd 28ain, 1858. Deuai allan yn wythnosol, a'i faintioli ydoedd wyth tudalen pedwar plyg, a'i bris ydoedd dwy geiniog. Ond, oddeutu dechreu y flwyddyn 1859, daeth allan fel cyhoeddiad misol.

Udgorn y Bobl, 1859.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1859, gan Mr. T. Gee, Dinbych, dan olygiaeth Llew Llwyfo. Deuai allan yn wythnosol, a'i bris ydoedd ceiniog. Ni pharhawyd i'w gyhoeddi yn hir iawn, ac yn nechreu Gorphenaf, 1865, cymerwyd lle Udgorn y Bobl gan argraphiad arall o'r Faner, yr hon a elwir, ar lafar gwlad, yn Faner Fach. Pris hon ydyw ceiniog, a daw allan bob dydd Sadwrn, ac ymddengys fod iddi gylchrediad eang.

Y Fellten, 1860.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn nechreu y flwyddyn 1860, gan Mr. Rees Evans, Merthyr Tydfil, ac wedi hyny cyhoeddwyd ef gan Mr. Rhys Lewis, o'r un lle, yr hwn hefyd, yr adeg hono, gan mwyaf, fyddai yn ei olygu, gyda chynnorthwy Dewi Wyn o Esyllt. Ystyrid hwn, yn enwedig yn y Deheudir, yn newyddiadur gwerthfawr, ond ceir ei fod,