Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/41

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Y Glorian, 1867.—Cychwynwyd y newyddiadur hwn yn y flwyddyn 1867, gan Llew Llwyfo ac Islwyn, a hwy oeddynt yn ei olygu, ac yn ysgrifenu y rhan fwyaf iddo, ond am enyd fer y parhaodd.

Y Dydd, 1868; Y Tyst Cymreig, 1869; Y Tyst a'r Dydd, 1871.—Cychwynwyd Y Dydd yn y flwyddyn 1868, yn benaf gan y Parch. Samuel Roberts (S. R.), Llanbrynmair. (Conwy ar ol hyny), yn fuan ar ol dychwelyd o'r America, a chyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. W. Hughes, cyhoeddwr, Dolgellau. Dywedir fod ei gylchrediad, ar y pryd hwnw, yn helaeth iawn. Wrth son am Y Dydd, efallai y dylid dyweyd fod Y Tyst Cymreig wedi cael ei gychwyn yn y flwyddyn 1869, a daeth y rhifyn cyntaf allan ar Mehefin 29ain, 1869. Cychwynwyd hwn gan gwmni o weinidogion a lleygwyr yn perthyn i'r Annibynwyr, a'i olygwyr cyntaf oeddynt y Parchn. W. Rees (Hiraethog), Noah Stephens, John Thomas, D.D., William Roberts, Lerpwl, a H. E. Thomas, Birkenhead (America ar ol hyny), ond deallwn mai ar Dr. John Thomas y disgynai rhan drymaf y gwaith, ac am ychydig amser y parhaodd cysylltiad y rhai cyntaf a enwyd ag ef. Yn nechreu y flwyddyn 1871, unwyd Y Tyst Cymreig â'r Dydd, a galwyd ef bellach yn Y Tyst a'r Dydd, a chodwyd ei bris i geiniog—a—dimai yn lle ceiniog, a pharhawyd i'w argraphu yn Dolgellau, a pharhaodd, tra y bu yno, i ddyfod allan dan yr un olygiaeth. Yn niwedd Mehefin, 1872, symudwyd Y Tyst a'r Dydd i gael ei argraphu gan Mr. Joseph Williams, Merthyr Tydfil. Daeth allan y rhifyn cyntaf o hono yn Merthyr ar Gorph. 5ed, 1872, ac yno y parha i gael ei argraphu. Bu prif ofal a golygiaeth y newyddiadur hwn, o'r dechreu hyd adeg ei farwolaeth, yr hyn a gymerodd le Gorph, 14eg, 1892, pan yn 71 mlwydd oed, yn llaw y Parch. J. Thomas, D.D.,