Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/42

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Lerpwl, a phan symudwyd ef i gael ei argraphu yn Merthyr Tydfil, gwnaed trefniadau â'r Parch. D. Jones, B.A., Abertawe, i weithredu fel is-olygydd. Tra nad yw ei gylchrediad yn helaeth iawn, eto y mae yn wasgaredig trwy holl Gymru, a rhai manau yn Lloegr. Gwelir fod Y Tyst—dyna ei enw yn awr—ar ddechreu y flwyddyn 1892, yn ymddangos mewn diwyg ychydig yn newydd, ond yn parhau am yr un pris. Dylid dyweyd fod Y Dydd, yr hwn a barhai i gael ei gyhoeddi yn swyddfa Mr. W. Hughes, Dolgellau, wedi ei roddi i fyny yn mis Medi, 1891, ond deallwn ei fod wedi ail—gychwyn eto er Chwefror 12fed, 1892, a'i bris yn awr ydyw dimai. Er nad oes unrhyw gysylltiad swyddogol, fel y cyfryw, rhwng y newyddiaduron hyn â'r Annibynwyr, eto edrychir arnynt fel yn gwasanaethu Annibyniaeth yn Nghymru.

Y Gwyliwr, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan yn mis Ionawr, 1869, ac ni bu byw ond prin i orphen y flwyddyn hono. Cyhoeddid ac argrephid ef gan Mr. D. Griffiths, Cwmafon, a'i olygwyr oeddynt y Parchn. Benjamin Evans, J. Rowlands, Abel J. Parry, a H. Cefni Parry. Deuai y newyddiadur hwn allan yn bymthegnosol, a chychwynwyd ef, yn benaf, er gwasanaethu enwad y Bedyddwyr yn Nghymru. Ei bris ydoedd ceiniog.

Y Goleuad, 1869.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadur hwn allan ar Tachwedd 4ydd, 1869, a chychwynwyd ef, i ddechreu, gan gwmni o bersonau perthynol i'r Methodistiaid Calfinaidd, a chyhoeddid ac argrephid ef, ar ran y cwmni, ac fel un o'r cyfryw, gan Mr. John Davies (Gwyneddon), Caernarfon, ac efe hefyd, am y ddwy flynedd gyntaf, oedd yn ei olygu. Wedi iddo ef roddi yr olygiaeth i fyny, ymgymerwyd â hi gan y Parch. John Roberts (Ieuan Gwyllt), yr hwn a wasanaethodd