Tudalen:Llenyddiaeth fy ngwlad.pdf/56

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amcean da. Ymddengys yn awr am ei fod yn sylweddoli un o'm hen fwriadau." Ei arwyddair, yr hwn a geir ar y wyneb-ddalen, ydyw-"Fy Ngwlad, fy Iaith, fy Nghenedl," a hyderwn y bydd iddo barhau i gadw at ystyr hyn. Ceir ynddo erthyglau arweiniol ar bynciau y dydd, Newyddion Cymreig, Nodiadau o Lan y Tafwys, Nodiadau Cerddorol galluog, Barddoniaeth, Ymgom am Lyfrau Hen a Diweddar (yr hon golofn sydd yn werthfawr), Gwreichion, Cwrs y Byd (nodiadau dyddorol ar wahanol faterion), Newyddion Americanaidd, a chryn lawer o'r newyddion lleol sydd yn bwysig i Gymry y ddinas yr argrephir ef ynddi eu gwybod, &c. Hefyd ceir fod ffugchwedl wedi ymddangos gan Isalaw, yn dwyn y penawd "Teulu Min-y-Morfa," ac hefyd dylid dyweyd mai i'r newyddiadur hwn y darfu i Mr. Daniel Owen, Wyddgrug, ysgrifenu y ffugchwedl a elwir yn "Profedigaethau Enoc Huws," a'r hon, erbyn hyn, sydd wedi ei chyhoeddi yn gyfrol ddestlus. Ceir yn y rhifyn am Mawrth 3ydd, 1892, fod Llew Llwyfo yn dechreu cyhoeddi ynddo ffugchwedl dan y penawd "Cyfrinach Cwm Erfin."

Seren y De, 1891.—Daeth y newyddiadur hwn allan yn nechreu y flwyddyn 1891, dan olygiaeth Mr. Llewelyn Williams (Caergrawnt), tra y cynnorthwyir ef gan Mr. Evan R. Evans, mab Alltud Gwent. Ei amcan, meddir, ydyw rhoddi i Gymry y Deheudir lenyddiaeth iachus, a newyddion llawn am holl symudiadau y blaid Ryddfrydig. Cynnwysa erthyglau cryfion, ac addewir ysgrifenu iddo gan y Meistri Arthur Williams, A.S., S. T. Evans, A.S., O. M. Edwards, J. Bevan (Llansadwrn), ac eraill, a deallwn fod iddo gylchrediad da.

Y Chwarelwr, 1891.—Daeth y rhifyn cyntaf o'r newyddiadar hwn allan ar Gorphenaf 18fed, 1891, a chychwynwyd ef gan Mr. H. Evans, cyhoeddwr, Blaenau Ffestiniog,