Ac yn olaf, i'r "Wylan" -
"Ar erwau'r môr câr aros,-i chwarae
Gyda'i cheraint agos;
Deniadol yw yr edn dios-
Târ wen fel eira unnos."
Ceir gwedd gymdeithasol ar ei Englynion Beddgraff a'i Gyfarchiadau personol ar achlysuron fel geni,
priodi a marw, hen draddodiad eto. Tebyg iddo ef ei
hun feddwl, cyn ei ddiwedd, ei fod wedi rhoi gormod.
o amser at y math hwn o ganu, canys dywedodd un-
waith:-
Ac yr ydwyf yn credu, -fe weriais
F'oriau i rigymu;
Mwy o wledd fydd gemau lu
Y to ifanc sy'n tyfu."
Pa un bynnag am hynny, ceir yn y pethau hyn ganddo
gydymdeimlad ac ewyllys dda gwerin Gymreig hyd
heddiw. Y mae'n ddiau ddefod yn y peth,"confensiwn," chwedl y "to ifanc,"-pethau i'w dywedyd efallai, ond bod yma lun ar y dywedyd hefyd:-
Ac os heb un wobr obry,
Yr hen frawd, cadd goron fry."
Un dewr a fu yn darian
Rhyngot ti a'r rhengau tân."
"A'r un mor wag yw'r annedd,
Noeth yw y bwich wnaeth y bedd."
Seren fach drwy'i siwrnai fer
Oedd oleuodd i lawer."
A'i gruddiau teg rhoddwyd hi
Yma'n drist a maen drosti."
Adwy fawr yn y Fedw fydd.
Lle unwaith bu llawenydd."
"A rhes hir o'i thrysorau
Sy ynghudd, a'i drws ynghau."
Yn ddi-os ewch yn ddau sant
O Gae Gwyn i'r gogoniant."
Tudalen:Llinell neu Ddwy.djvu/11
Gwedd
Prawfddarllenwyd y dudalen hon