cwbwl yn glir yrŵan; ond mae arna-i ofn y gallwn-i i anghofio-fo eto; achos mi fu'n fy arteithio-i drwy'r nos neithiwr, a heddiw. Mi ddoth y cyfan yn ôl yn sydyn fel gweledigaeth wedi i chi 'y ngadael-i."
Plethodd Bonnard ei freichiau i wrando, ac eb ef yn dawel:
"Wel, dywedwch y cyfan wyddoch-chi wrtha-i, Llio; dywedwch pwy ydech-chi, sut y daethoch-chi yma-popeth, wyddoch."
Gwasgodd yr eneth ei dwylaw ynghyd, a phetrusodd.
"Peidiwch â bod ofn siarad," chwanegodd Ivor yn ei ffordd dawel, radlon ei hun. "Fedr neb mo'ch niweidio-chi. Dywedwch y cwbwl, Llio fach, heb gelu dim."
Cododd ei llaw, a gwthiodd gudynnau ei gwallt o'i llygaid, ac oddi ar ei thalcen twym; ac er yr ymddangosai'n dawel, eto hawdd oedd gweled ing yn llinellau prydferth ei hwyneb.
"Dydi Ryder Crutch ddim yn perthyn imi o gwbwl. Wynn ydi fy enw i. Mi apwyntiodd 'y nhad Crutch yn warcheidwad imi yn i wyllys, ag mi ddylaswn-i fod wedi etifeddu peth arian, ond mae-o wedi cadw'r rheini oddi wrtha-i. Mi fuom yn crwydro oddi amgylch o le i le; roedd rhyw anesmwythdra rhyfedd ar Mr Crutch; fedra-fo byth fod yn llonydd yn unlle. Rydw-i'n gwybod pam yrŵan," a chrynai Llio gan arswyd wrth feddwl am y peth. "O'r diwedd, tua blwyddyn yn ôl, mi ddoth â mi yma. Y nefoedd yn unig a ŵyr faint a ddioddefais-i yn y lle ofnadwy yma. Roeddwn-i bron o ngho cyn gwybod bod Ryder Crutch yn llofrudd...."