Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ymadawsai'r hen olwg syn, ddryslyd, ymaith yn llwyr. Gorffwysai cysgod rhyw wybodaeth ddofn, dywyll, ar ei hwynepryd. Fel y sylwai ar hyn, cynyddai cynnwrf ei fron; cymerodd ei llaw, a daliodd hi'n dynn, nes teimlo ohono'n ddigon gwrol i siarad.

"Roedd arna-i eisio'ch gweld-chi," murmurodd yn gynhyrfus; "rydw-i'n cofio'r cyfan yrŵan."

"Clod i ras y nef," ebr yntau. "Diolch i Dduw am hyn. Peidiwch ag ofni, na chilio oddi wrtha-i, Llio. Fedra-i ddim deud mor ddedwydd ydw-i o wybod ych. bod-chi wedi dwad atoch ych hun. Dowch i'r golau, imi weld ych wyneb-chi fel y dymunais-i filoedd o weithiau i weld-o."

Carasai ef ei thywys; ond yn wylaidd ymryddhaodd oddi wrtho, a cherddodd o'i flaen tua'r drws. Aethant trwyddo, a'u cael eu hunain mewn math o fynedfa dywyll bygddu. Bolltiodd Llio'r drws o'u hôl.

"Canlynwch fi'n ofalus," ebr hi, "a pheidiwch â dangos math yn y byd o oleuni, na gwneud trwst."

Canlynodd hi drwy fynedfeydd, i fyny grisiau, ac i lawr grisiau, drwy ystafelloedd eang, ar hyd galeri, nes iddi o'r diwedd sefyll i agor drws ei hystafell ei hun. Safai'r lamp ar y bwrdd, a dangosodd ei goleuni wyneb hardd Llio, yn gan harddach nag erioed yn awr, a'r enaid digwmwl yn syllu o'r llygaid duon. Ond gwrido a wnâi hi, cochai ei gruddiau a'i gwddf fel y trôi at Ivor Bonnard; a chiliodd yn ôl wrth ei weled yn estyn ei freichiau i'w chofleidio.

"Na," ebr hi, yn chwai, "gwrandewch be sy gen i i'w ddeud. Mae-o'n llosgi yn 'y nghalon-i, ag yn 'y ngyrru-i'n wallgo, a da y dichon hynny. Mi wela-i'r