Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/113

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"I ba ddiben? Pwy les ddeuai o hynny? Rydechchi'n hollol anffit i fyw. Y tosturi a'r tynerwch ddaru chi ddangos iddi hi, hynny a ddangosa innau, i phlentyn-hi, i chithau."

"O Arglwydd, be wna'-i?" griddfanai'r llwfryn dinerth. Nid oes dim hafal i gydwybod euog am droi dynion yn llyfrgwn; a'r gwannaf ei galon o bawb ya wyneb pethau erchyll bywyd ydyw'r ymffrostiwr rhyfygus ac annuwiol.

Wedi ymlusgo drwy'r mynedfeydd nes dyfod i ochr arall y tŷ, safodd Ryder Crutch wedi ei barlysu gan arswyd angau; trodd bâr o lygaid wedi ymledu'n an-naturiol tuag at Ivor, a thremiai holl ddychryn a gwae anobaith ei enaid allan ohonynt; ceisiodd godi ei law i bwyntio at ddrws o'i flaen; ond yn yr act, griddfanodd ochenaid ingol, angheuol, a syrthiodd yn drwm i'r llawr. Erbyn hyn, codasai rhyw fath o dosturi tuag ato yn eu drueni yng nghalon Ivor, a chymysgai ei dosturi â'i ddigllonedd eiddigus, fel na wyddai am eiliad pa beth i'w wneud. Ymgrymodd dros y swp aflerw ar y llawr; gwelai waed ar y gwefusau aflan a oedd bellach i fod yn fud am byth. "Ysbeiliodd angau fi o'm dialedd," eb ef, mewn sibrwd uwch ei ben.

Felly y bu farw Ryder Crutch, heb i'w waed euog ystaenio dwylaw'r llanc a dyngasai y mynnai ei fywyd. Eto, ar un ystyr, ef a'i lladdodd, yn gymaint ag i'w ymweliad annisgwyliadwy brysuro ei angau. Rhedodd ias o gryndod trwy'r gorff marw, cododd hanner ochenaid lwythog am y tro olaf am byth o'i fron; ac yno y gorweddai Ryder Crutch yn farw, bron ar drothwy'r