ystafell a droesai yn fedd i wrthrych ei gariad a'i eiddigedd creulawn.
Edrychodd y dyn ieuanc ar y gweddillion difywyd, a rhoddodd yr olygfa gyweirnod mwy lleddf a sobr i'w ysbryd. Trodd oddi wrthynt, cododd yr agoriad a ddisgynasai o law'r llofrudd, agorodd y drws ar ei gyfer, a cherddodd yn araf a pharchus, a'i ben yn noeth, i'r ystafell. Dyma lannerch gysegredicaf y byd iddo ef—carchar ei fam yn ei bywyd. Clybuasai'r meini hyn ei hocheneidiau, a gwlychasid hwy â'i dagrau; buont yn dystion mudion pan drywanodd llaw greulawn y llofrudd ei chalon doredig, a thros y llawr hwn y llifodd ei gwaed. Dyma fangre ei bedd tywyll ac unig.
A dwylaw'n crynu gan deimlad, cododd y coed a guddiai ei gweddillion. Syrthiodd ar ei liniau wrth ochr y bedd, ac ail-gynheuai'r olygfa ofnadwy lidiowgrwydd digllawn ei galon. Ond yn fuan daeth teimlad arall ato. Teimlodd fod mwy na gweddillion ei fam yn yr ystafell; caeodd ei lygaid, ac wrth ei ystlys teimlodd bresenoldeb santaidd, gwyn, a glân yr un a arferai ei gofleidio a'i anwylo, ac ef eto'n faban. Cafodd ei fam gennad i fod yno wrth ei ochr, i dyneru caledwch ei ddicter, ac i lonyddu a thawelu cynnwrf y galon dymhestlog a gurai'n wyllt yn ei fynwes. Yn ei phresenoldeb hi, agorwyd ei lygaid i weled bod cynllun bywyd yn drefn, ac nid yn anhrefn, a bod y drefn yn unioni pob cam, yn cuddio'r llaid â gwyrddlesni, ac yn hulio hagrwch y pridd â lliwiau anghyffwrdd y blodau. Beth yn chwaneg a ddysgodd wrth fedd ei fam, ac yng ngolau ei phresenoldeb, nid oes neb a ŵyr ond y Goruchaf ac yntau. Cododd i ymadael yn ddyn newydd;