Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/12

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

munud nesaf dyma hi'n dyfod heibio i benelin y ffordd, ac i'r orsaf. Ohoni daeth dau ŵr ieuanc yn teithio yn y dosbarth blaenaf, â golwg uwchraddol arnynt.

"Byddigions" oedd barn y chwarelwyr, mewn sibrwd o glust i glust. Estynnodd un o'r ddau swllt i unig was yr orsaf, a gofyn iddo ofalu am eu clud; holodd ef ymhellach am gerbyd i fyned i Westy'r Llew Coch: a chyn pen deng munud yr oeddynt ym mharlwr y gwesty, a Mr Edwards, gŵr y tŷ, yn llawn busnes a gofal o'u deutu. Nid oedd Gwesty'r Llew Coch yn dŷ mawr na rhadlon yr olwg arno. Tafarn dipyn gwell na'r cyffredin ydoedd; eto gwelsai Mr Edwards yn nyddiau ei ieuenctid wleddoedd mawrion gwestai gorau Llundain, ac aml oedd ei atgofion am y dyddiau hynny yn ei oes pan arferai weini ar arglwyddi. Ni choilasai eto mo goethder y dyddiau a fu; ac er nad oedd y Llew Coch yn llewyrchus yr olwg oddi allan, cafodd y gwŷr ifainc yn fuan nad oedd angen lle mwy cysurus nag o dan nenbren Mr Edwards.

A hwy uwchben eu cinio, fe geisiwn ninnau well adnabyddiaeth ohonynt. Gŵr ieuanc tua saith ar hugain oed ydyw un, ei wallt a'i lygaid yn dduon, a'i wyneb lluniaidd yn llwyd a thenau; ei finflew hefyd yn ddu, a'i wefusau'n deneuon a thynion, yn awgrymu penderfyniad di-ildio. Hwyrach, o hir syllu ar yr wyneb, a'r llygaid tywyll breuddwydiol hyn, a gweled y fflach danllyd ar adegau yn eu dyfnder trist, y tybiai'r craff fod y gŵr ieuanc wedi byw blynyddoedd hirion trymion o flinder a phoen. Y mae pum mlynedd ar hugain ambell ddyn difrif yn hwy na thrigain mlynedd llawer oferddyn gwag; a throdd noson o waddod