iau'r gerddi bach o flaen eu drysau, i ymddiddan am y peth yma a'r peth arall, cyflwr y farchnad lechi, yr eisteddfod, a rhagolygon y côr a'r band ynddi, a'r cyfarfod pregethu a oedd wrth y drws. Eisteddent yn dawel nes dyfod yr arwydd dyddiol i droi i mewn am swper, ac wedyn i'r gwely. Yr arwydd hwn oedd dyfodiad "y trên dwaetha" i'r orsaf. Ni ellid dych- mygu am chwarelwr parchus yn y darn hwnnw o'r pentref yn troi i'w wely heb weld y trên diwaethaf yn dyfod i mewn, a gwybod pwy a fuasai yn y dref, a phwy a ddaethai adref am dro.
Cawsid hin deg a chynnes ers wythnos, ond heno argoelid ystorm ers oriau. Edrychai'r wybren ddu feichiog yn fygythiol, a phroffwydai'r "hen ddwylo ", dan ysgwyd eu pennau, y ceid mellt a tharanau a chen- lli o law cyn y bore. Disgynnai ambell ddiferyn bras eisoes, ond ni ddaethai'r glaw eto; cymerai ei amser yn hamddenol, fel y gwna storm fawr sydd yn ymwybodol o'i nerth ac ehangder difrod ei rhyferthwy.
Ynghanol y twr chwarelwyr a eisteddai i ymgomio ger yr orsaf, safai John Thomas, "yr hen ŵr bonheddig", fel y gelwid ef gan ei gymdogion, a dyma Huw Rymbol, hen gymeriad arall yn yr ardal, yn hercian wrth ei ffon tuag ato, a'i gyfarch.
"Sut 'rwyt-ti, John Thomas?" eb ef, mewn llais gwichlyd. "Mae-hi'n debyg iawn i ryw dywydd, on'- tydi-hi? 'Roedd-hi'n braf ddoe, ond 'toes dim dyn byw ŵyr sut fydd-hi 'fory."
"Wel, ydi," atebodd John yn araf a sobr, " gobeithio y deil-hi nes daw'r trên i mewn."
Ar hynny, clywid chwibaniad y trên wrth ymyl, a'r