Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/125

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

Diogel yw dywedyd na ddaeth chwaneg o sŵn o'r stafell wely am funud neu ddau, beth bynnag. Ni wyddai Gwynn yn iawn pa beth i'w gredu; ac i roddi pen ar ei benbleth, cododd o'i wely, a gwisgodd y gwlanenni a wisgai bob dydd oddeutu'r lle. Wedi ymolchi, a threfnu tipyn ar ei wallt, meiddiodd ddyfod allan o'i ymguddfan. Pan welodd wyneb prudd, prydferth, angylaidd Llio, a'i manwallt aur yn rhydd dros ei hysgwyddau, a gwrid gwyleidd-dra ar ei grudd, rhwbiodd ei lygaid yn egnïol, rhag ofn mai breuddwydio yr oedd. Ond cododd Ivor ar ei draed, ac wedi ysgwyd llaw Gwynn yn galonnog, cyflwynodd ef i Llio. Eisteddodd y tri i aros i'r tegell ferwi, a buan iawn yr oedd pob pryder ynghylch eiddigedd Gwynn Morgan wedi peidio ym mynwes Llio. Teimlai tuag ato yn fuan fel pe buasai'n frawd iddi. Fe gofia'r tri, tra fyddant ar y ddaear, am y borebryd hwnnw a gawsant oddeutu'r bwrdd crwn ym mwthyn Hafod Unnos.

Ymhell cyn i'r ymddiddan ddarfod, yr oedd y wawr wedi torri dros y mynyddoedd. Brysiodd Gwynn Morgan ymaith i ddweud wrth y wraig a arferai ddyfod yno i lanhau'r tŷ nad oedd angen amdani heddiw, ac wedi ei gweled, aeth yn ei flaen i'r gwesty, a dywedodd yno fod ei gyfaill yn mynd i briodi gyda geneth amddifad a adewsid dan ei ofal, a'i bod hi'n dyfod yno y diwrnod hwnnw, ac y byddai'n aros yn y gwesty. Hefyd, tynghedodd wraig y tŷ i gadw'r hanes yn ddistaw, gan nad oedd ei gyfaill yn hoffi sŵn. Wedi hynny, brysiodd adref i warchod, tra byddai Ivor a Llio'n mynd i dref yn y cyfeiriad arall i brynu gwisgoedd a phethau eraill angenrheidiol. Nid y peth lleiaf pwysig