Tudalen:Llio Plas y Nos.djvu/126

Oddi ar Wicidestun
Gwirwyd y dudalen hon

o'r rheini oedd y drwydded. Gyda'r nos, dychwelodd y ddau i'r gwesty, a chymerodd gwraig garedig y tŷ yr eneth dan ei gofal arbennig.

Y noson honno, ymwelodd Ivor â hen weinidog parchus y pentref; a syn iawn gan hwnnw oedd gwrando ei neges. Gwelsai Gwynn Morgan yn y capel amryw droeon, ond ni welsai mo Ivor yno, a meddyliodd mai gŵr di-barch i'r Sul, ac i Dŷ'r Arglwydd, ydoedd. Cydsyniodd, er hynny, i'w briodi. Rhyfedd braidd gan wraig y gwesty oedd bod y bonheddwr ieuanc yn dewis cael ei briodi yn y capel.

Arferasai feddwl bod pawb a oedd yn rhywun yn myned i'r Eglwys Wladol i'w priodi, pa le bynnag yr aent i addoli, a pha beth bynnag a fyddai cymeriad person y plwyf. Ond ŵyr neb ar y ddaear lle mae'r byd yn mynd, na be i'w feddwl, wedi i'r colegau a'r ysgolion yma lenwi'r wlad," meddai wrthi ei hun, a chwanegodd, "Mi fydd y bobol fawr i gyd yn siarad Cymraeg yn fuan, a'r tlodion yn siarad Saesneg, rhag cwilydd siarad run peth â'i gwell." Ond, er bod aml syniad pur hen ffasiwn ganddi, fel pob gwraig gwesty, yr oedd difai calon yn ei mynwes. Cymerodd yr eneth druan, amddifad, a ddaethai dan ei gofal i'w chalon, ac er na wyddai ddim o wir hanes Llio, yr oedd gwybod ei bod yn amddifad yn ddigon i agor llifddorau ei thosturi a'i thynerwch.

Un bore braf, clir, gaeafol, safai Ivor a Llio wyneb yn wyneb yn sêt fawr y capel, a Gwynn Morgan gerllaw iddynt. Darllenai'r hen ŵr llariaidd, penwyn, eiriau'r Ysgrythur priodol i'r amgylchiad. Wedi iddo ef orffen eu huno, a dodi ei fendith arnynt, agorodd y